O dro i dro y mae pob eglwys yn cael ei cholledu trwy farwolaeth un neu ragor o'i haelodau. A phan y mae y cyfryw yn amlwg mewn ffyddlondeb a gwasanaeth y mae y golled yn fawr a'r chwithdod a
deimlir yn ddwfn. Dyma ydyw profiad eglwys Salem, Long Creek. Iowa.
O fewn ychydig fisoedd î'w gilydd yr ydym wedi colli dri o'n haelodau. Yr oeddynt yn oedranus, ond yn wasanaethgar a defnyddiol hyd y diwedd. Er i'r tri rodio y glyn ar haner nos, nid oeddynt
ofnus, eithr yn gwbl ffyddiog a hyderus. Cyn datodiad y llinyn olaf, a chael gollyngdod adref, gadawsant dystiolaeth eu bod yn gwbl addfed eu hysbryd i dderbyn yr olaf ergyd. Iddynt hwy nid
oedd marwolaeth ond porth i dir gwynfyd a gogoniant.
Yr oedd un o'r tri, sef gwrthrych ein cofiant Evan E. Davies, wedi byw yn ardal Long Creek am 58 o flynyddau. Daeth i'r wlad hon pan yn fachgen 18 mlwydd oed. Cafodd ei eni mewn ffermdy o'r
enw Cefncynhafal, Pennal, Sir Feirionydd. Wedi ei ddyfodiad i'r wlad hon, bu yn aros am ysbaid o ddwy flynedd yn Nhalaeth Ohio.
Yn y flwyddyn 1852 symudodd, gyda ei rieni, a'i frodyr a'i chwiorydd i Long Creek. ac erbyn heddyw y mae y teulu wedi dyfod yn lluosog, yn llwyddianus yn eu gyrfa amaethyddol, ac yn barchus yn
y gymydogaeth ar gyfrif eu bywyd moesol a chrefyddol. Er ys rhai blynyddau blinid ein gwrthrych gan 'bladder trouble,' ac er ys tro yr oedd ei deulu a'i gyfeillion agosaf yn ofni fod angeu yn
graddol dirio dan sylfaen ei fywyd. Er ymgynghori, a chael y meddygon goreu, methodd a gorchfygu ei anhwyldeb.
Chwech wythnos cyn ei farwolaeth aeth i Chicago i fyned o dan weithred law-feddygol, ond er derbyn pob gofal, ymdrechion ei anwyl briod a'i blant, a goreu y meddygon, ac er bobpeth a allasai
braich o gwnawd ei wneyd, methwyd a'i gadw yn hwy na Chwefror 20fed, pryd yr ehedodd ei enaid at "Dduw yr hwn a'i rhoes," ac i "fyd oedd wrth ei fodd," ac efe yn 78 mlwydd oed.
Cyn i'w gorff gael ei gludo adref o Chicago cafwyd gwasanaeth nodedig o effeithiol yn nhy ei wyres, Mrs. Pritchard, Chicago, nos Lun, Chwefror 20. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchn. John E.
Jones a John C. Jones. Yr oedd ein gwrthrych yn berthynas a'r Parch. John E. Jones, ac hefyd a'r Parch. Wm. E. Evans, Mankato, Minn.
Cymerodd yr angladd le dydd Mercher, a daearwyd ei weddillion yn mynwent yr ardal. Yr ysgrifenydd yn gwasanaethu, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Mr. Jenhins, gweinidog yr eglwys Annibynol.