MRS. JANE PHILLIPS. TRACY, MINNESOTA.

Boreu Llun, Mai 23ain 1910, bu farw Mrs. Jane Phillips, anwyl briod Mr. Howell Phillips, Tracy, Minnesota, Ni chafodd ond cystudd byr iawn, ond er fod yr alwad yn un mor ddisymwth, nid oes yr amheuaeth lleiaf nad ydoedd yn barod ar ei chyfer.

Ganwyd ein chwaer ymadawedig yn ardal Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Enwau ei rhieni oeddynt Mr. a Mrs. Michae! Jones. Yr oedd yn un o chwech o blant, o ba rai nid oes ond dau yn aros, sef Robert M. Jones, yr hwn sydd yn ddiacon gweithgar yn eglwys Salem. gerllaw Lake Crystal. a Mrs. Abraham Jones. hithau yn aelod ffyddlawn yn eglwys Jerusalem.

Symudodd ein chwaer i'r wlad hon yn 1846, gan wneyd ei chartref i ddechreu yn Wisconsin. Yn 1869 ymunodd mewn priodas a Mr. Howell Phillips, mab i'r diweddar Barchedig Thomas Phillips. Ganwyd iddynt chwech o blant, o ba rai y mae y rhai canlynol yn fyw: Mary S. Phillips, Mrs. Gwennie Thomas, John, Thomas a George Phillips.

Symudasant i Minnesota Lake yn y Dalaeth hon. Yn 1874 symudasant i ardal Butternut Valley, ac yn ddiweddaf yn 1892, aethant i gartrefu gerllaw Tracy, a dyna ei chartref hyd adeg ei marwolaeth.

Cymerodd y claddedigaeth le Mai 25ain. Cynhaliwyd gwasanaeth yn Holly cyn cychwyn, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Gilles yn dra effeithiol. Wedi cyrhaeddiad y gweddillion i ardal Judson cynhaliwyd gwasanaeth yn addoldy Jerusalem. Cymerwyd rhan gan y Parchn. John W. Roberts, William Machno Jones a D. Edwards. Daeth tyrfa luosog at ei gilydd ar fyr rybydd, yr hyn ddengys y lle uchel oedd i'n hanwyl chwaer yn syniadau ei chydnabod.

Cydymdeimlir yn ddwys a'r priod, y plant a'r perthynasau oll yn y brofedigaeth chwerw a'r golled fawr y maent wedi gael yn ei hymadawiad.

Yr oedd Mrs. Phillips wedi ei dwyn i fyny yn eglwys Dduw. Yr oedd wedi cyflwyno ei hunan pan yn ieuanc i fod yn aelod cyflawn, a thrwy wahanol gyfnodau bywyd, ac yn nghanol holl symudiadau ac anfanteision gwlad newydd, cafodd nerth i ddal ei ffordd, heb dynu gwarth ar yr enw rhagorol oedd yn ei broffesu. Credwn fod ei hymwneyd cyson a moddion gras wedi bod dan fendith yr Arglwydd, fel yr oedd yn dyfod yn fwy clir a hyderus ei phrofiad, fel yr oedd yn tynu at ddiwedd ei hoes. Gellir dweyd fod y chwaer hon yn addurn i'w phroffes. Bu yn nodedig ffyddlawn yn holl gysylltiadau bywyd - yn ffyddlawn fel gwraig, fel mam ac fel cymydoges; a bu yn ffyddlawn i achos crefydd yn ei holl gysylltiadau. Cymerai ddyddordeb arbenig yn nganiadaeth y cysegr. Meddai ar lais peraidd iawn, "a gwnaeth ddefnydd da o hono mewn canu mawl i'r Goruchaf. Un o ffyddloniaid Seion oedd ein chwaer ymadawedig. Y mae ei marwolaeth yn golled fawr, ond ein cysur yw cofio y gall yr Arglwydd lanw y bylchau.
D. E.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1910