PARCH. GRIFFITH R. EVANS. JOLIET, ILLINOIS.
Er fod bellach dros flwyddyn wedi pasio oddi ar pan fu farw yr Hybarch Griffith R. Evans, Joliet, Illinois, nid oes, hyd yn hyn, air o son am dano wedi ymddangos yn y "Drych," nac unrhyw newyddiadur Cymreig arall.Yn fuan wedi i'r amgylchiad gymeryd lle, gwnaeth y teulu gais at ei hen gyfaill, y Parch. John Cadwaladr, D. D., am iddo ysgrifenu cofiant iddo, ac addawodd yntau wneyd, ond cyn iddo gael hamdden i gyflawni ei addewid, yr oedd yntau hefyd wedi huno yn yr angeu! Nid oddiar ystyriaeth fod ynwyf unrhyw gymwysder at y gorchwyl, y cydsyniais i a chais y weddw i ymgymeryd a'r gwaith, eithr yn hollol oddi ar ymdeimlad fod gwr o ddoniau ac enwogrwydd Mr. Evans, yr hwn a fu yn y weinidogaeth am dros 66 mlwydd yn haeddu teyrnged o goffad parchus, ac mai nid doeth fyddai oediad pellach yn y mater.
Ganwvd Mr. Evans yn Bryn Llaeth, yn agos i Bwllheli, Gogledd Cymru, Mai 21ain, 1821; felly pan fu farw, Medi 2ail, 1913, yr oedd yn 92 mlwydd a thri mis oed, "yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau." Magwyd ef gan ei daid a'i nain, Griffith Prys a 'Betsi Roberts; ei nain yn gyfnither i'r enwog Michael Roberts, Pwllheli. Pan yn 13 oed, aeth i gartrefu at e?i rieni i Plas-yn-Ngheidio yn agos i Nefyn.
Nid oes genyf wybodaeth pa fanteision addysg a gafodd, ond tybiwyf ei fod wedi cael ysgol dda, canys yr oedd arwyddion un wedi ei ddysgu arno; yn foneddigaidd ei ymddangosdad, yn goeth ei iaith, yn drefnus fel meddyliwr, ac yn gyfarwydd yn athrawiaethau crefydd. Yr oedd ganddo law ysgrif dlos, a pharhaodd i allu ysgrifenu yn rheolaidd a darllenadwy hyd ei flynyddau olaf, pan oedd ei olwg wedi pallu bron yn llwyr.
Pan yn 26 mlwydd oed, derbyniwyd ef yn aelod o'r cyfarfod Misol yn Tydweiliog. Pa mor hir yr oedd wedi bod yn pregethu cyn hyny sydd anhysbys i mi, ac nid oes, genyf wybodaeth ychwaith am yr amgylchiadau o dan ba rai y dechreuodd, ond y mae yn wybyddus ddigon iddo godi i enwogrwydd fel pregethwr grymus a dylanwadol yn gyflym iawn. Cyn pen deuddeg mlynedd wedi iddo gael ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol, a phan nad oedd ond yn brin wedi cyraedd canol oed yr oedd yn adnabyddus trwy Dde a Gogledd Cymru fel un o gedyrn y pwlpud, a'i weinidogaeth yn cael ei bendithio "i droi llaweroedd o gyfeiliorni ei ffyrdd."
Cafodd ei ordeinio yn Nghymanfa Bangor yn y flwyddyn 1858. Am y deng mlynedd olaf o'i arosiad yn Nghymru, cartrefai Mr. E. yn Caergeiliog, Mon; ac yn ol arfer llawer o bregethwyr y dyddiau hyny, cadwai siop yno er cynaliaeth ei deulu. Yn ystod y deg mlynedd hyny yr enillodd ei boblogeiddrwydd fel pregethwr, ac fel "Gruffydd Evans, Caergeiliog," yr adnabyddid ef drwy y wlad; ac hyd yn nod, wedi iddo ddod drosodd i America, glynai yr enw wrtho, yn enwedig felly yn mysg ei hen gydnabod. Ond tra yr oedd ei boblogeiddrwydd yn cynyddu a'r galwadau am ei wasanaeth yn amlhau, cododd cymylau duon yn ffurfafen ei fywyd; dyrysodd ei fasnach, a bu farw ei briod, ac o dan bwysau y brofedigaeth ddwbl hono y daeth drosodd i America yn 1861, ac wedi iddo groesi y mor bu am rai blynyddau cyn i'r cymylau fyned drosodd ac iddo yntau ymunioni yn hollol o'i ysigdod.
Y fan gyntaf iddo aros wedi dod drosodd oedd yn Racine, Wisconsin. Yn Nghymru gyda'r M. C. yr oedd yn aelod, ond yn America ymgysylltodd gyda'r Annibynwyr, ac o fewn cylch yr enwad parchus hwnw y llafuriodd weddill ei oes. Bu am dymorau byrion yn gweinidogaethu yn Arena, Dodgeville, Milwaukee a Watertown ac Ixonia, Wisconsin. Tra yn y lle diweddaf yn 1868 priodwyd ef a Miss Lydia A. Jones, merch Mr. a Mrs. Simeon Jones, un o hen deuluoedd mwyaf cyfrifol yr ardal; ac yn 1871, mewn atebiad i alwad oddiwrth yr eglwys yno, symudodd i ofalu am yr achos yn Braceville, Illinois.
Ar y pryd hwnw, yr oedd y gwaith glo yn tynu llawer o Gymry i'r lle a'r achos yn llewyrchus. Bu trigfa y teulu yn Braceville am 20 mlynedd, ac o'r plant a anwyd iddynt yno y mae chwech yn fyw; Mrs. H. B. Hall a Miss Lydia Evans, Iowa Falls, Iowa. Henry Evans, Kansas City; Wm. R. Evans, Pueblo, Colorado; Mrs. Jos. M. McDonald a Miss Sarah Evans, Joliet, Illinois.
O blant y wraig gyntaf, y mae pump yn fyw, Mrs. Sidney Evans, Morfa, Mefyn; Mrs. Foulk Williams, Butte, Mont.; G. J. Evans, Hastings, Neb.; Mrs. Chas. Henderson, Omaha; a Mrs. R. W. Kennelley, Joliet.
Yn 1891, derbyniodd Mr. E. alwad o eglwys Big Rock a pharhaodd ei gysylltiadau bugeiliol yno am 7 mlynedd. Yn 1898 symudodd y teulu eu trigfa i Joliet, ac yno mewn cartref clyd yn cael gofalu am dano yn dyner iawn gan ei briod a'i ferch ieuengaf y treuliodd ein gwrthrych flynyddoedd ei henaint mewn tawelwch a mwynhad. Yn ystod tymor ei breswyliad yn Joliet, cyn i'w lygaid dywyllu fel na allai weled a'i fyned yn rhy floesg i allu llefaru yn hyglyw, arferai Mr. E. roi un Sabboth yn y mis i eglwys Humboldt Park, ac un arall i eglwys y South Side, Chicago, yn y tymor y bu heb weinidog; ac yr oedd yn uchel ei barch yn y ddwy eglwys.
Cafodd gladdedigaeth barchus pryd yr oedd amryw o'r plant o bellder ffordd yn bresenol, a llawer o hen gyfeillion o ardaloedd Big Rock, Braceville, Chicago a manau eraill wedi cydgyfarfod. Arweiniwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Dr, J. C. Jones, Chicago, a chymerwyd rhan gan weinidog yr eglwys, lle y cynelid y gwasanaeth, ac un arall o weinidogion y ddinas ag oedd yn cynrychioli undeb y gweinidogion yn nghyd a'r ysgrifenydd; y claddedigaeth yn mynwent brydferth Oakwood.
Estyned Duw ei nodded i'r teulu oll, ond yn neillduol i'r weddw oedranus yn ei hunigedd a'r ferch Sara am ei gofal ffyddlon o'i thad yn ei henaint.
O ran ei ddyn oddi allan, yr oedd Mr. Evans o faintioli cyffredin ac o gyfansoddiad cymesur a chadarn; talcen llawn, llygaid treiddgar, gwynebpryd hardd ac ysgogiad corfforol urddasol; yr oedd yn gwmniwr dyddan ac yn hoff o gymdeithas. Meddai lais clir a soniarus, a hwnw o ddan reolaeth dda. Fel cyfansoddwr pregeth, safai yn mysg y goreuon, ac fel traddodwr anhawdd taro ar ei well.