MRS. JANE OWENS JONES. SLATINGTON, LEHIGH, PENNSYLVANIA.

Gorchwyl pruddaidd iawn ydyw i ni gofnodi marwolaeth y chwaer rinweddol uchod, yr hyn gymerodd le dydd Gwener, Rhagfyr 26ain, 1913, yn 72 oed.

Cymerodd yr angladd le y dydd Mawrth cyntaf o'r flwyddyn newydd, pryd y daeth torf fawr o hen ffryndiau yr ymadawedig i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion marwol. Yr oedd y dorf daeth yn nghyd yn brawf ei bod wedi anwylo eu hun yn marn a theimlad llu o bobl ddaethant o bell ac agos. Yr oedd wedi eu chystuddio er ys misoedd lawer, fel pan ddaeth y diwedd, nid oedd ond y peth allesid ddysgwyl.

Gadawodd ar ei hol un brawd, sef Ellis Owen, ac un chwaer, sef Mrs. W. P. Williams, dau fab, sef Arthur, yr hwn sydd yn New York, ac hefyd William, yr hwn sydd gartref. Hefyd Mrs. Martha Jones, ei merch, heblaw hyny mae i'r olaf un mab, sef Harry, sydd yn byw gyda'i fam yn Slatington.

Genedigol o Lanberis, Gogledd Cymru, oedd Mrs. Jones. Daeth i'r wlad yma 57 o flynyddau yn ol, sef tair blynedd ar ol ei brawd, Ellis Owen, yr hwn bellach sydd wedi treulio 60 mlynedd yn y wlad, ac wedi cyraedd yr oedran teg o 78 oed, ac oni bae am ei goesau gallai fyw am 78 arall i bob ymddangosiad. Gellid meddwl wrth ei weled yn llenwi ei bibell ac yn symud ei dafod, ac yn adrodd hen straeon a phenillion boreu oes ei fod mor ieuanc ag erioed. Wel, nid yw ysbryd yn mynd yn hen.

Priododd Mrs. Jones a Richard W. Jones; bu ef farw rai blynyddau yn ol, ond nid cyn i'r plant ddod yn ddigon hen i edrych ar eu hol eu hunain. a rhai o honynt wedi cael cartrefi iddynt eu hunain. Teimlir chwithdod mawr ar ei hol. Mae ei sedd yn wag yn y capel, a'i chyngor nid yw mwy yn y ty. Mawr oedd ei sel dros achos y Gwaredwr, yr hwn a garodd er yn foreu iawn. Dangosodd ddyddordeb a brwdfrydedd mawr dros yr achos hyd y diwedd. Tystiolaethai fod Duw wedi bod yn hynod garedig iddi drwy ei hoes. Carai fod wedi ei wasanaethu yn ffyddlonach. Ymddiriedodd yn Ei drugaredd, afaelodd ei ffydd yn naioni Duw. Bu farw fel pe yn cysgu ei ffordd drwy'r afon i ddihuno a gloewach nen uwch ei phen, a sicrach ddaear dan ei thraed.

Gwasanaethwyd gan y Parch. Dr. Richards, hen weinidog yr eglwys a'r gweinidog presenol (y Parch. M. S. Young). Heddwch i'w llwch hyd foreu'r codi.
M. S. Y.

Y Drych ~ Ionawr 29ain 1914.