MR. JOHN D. JONES, CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Farmer, Cambria; was born September 7th, 1836, in Carnarvonshire, North Wales near Conway; son of David Jones (whose father's name was John Rowlands); his father died when he was only 7 or 8 years of age, and his mother (Sydnah Jones) came to America with her three children in 1848, and soon after she came, settled in Springvale, Columbia County, Wisconsin; she is now living with her son John D., at the advanced age of 78 years, and in good health; her daughter Catharine died December 6th, 1861, in Springvale, aged 23; and David died January 20th, 1866, aged 31 years.John D. was married July 2nd, 1878, in Cambria, to Mary Breese, daughter of Edward Breese, and sister of Lieut. Breese, Ex-Secretary of State; has one child - David Breese, born October 5th, 1879 (and named March 17th, 1880, while the biography was being written up).
Mr. Jones held the offices of Treasurer, Side Supervisor and Chairman of the town of Springvale. Has a 160 acre faerm in Springvale, on Sec. 27; 160 acres in the town of Arlington, Sec. 10, and 120 acres on Macon County, Missouri.
Both are members of the Presbyterian Church and he is a Republican.
Wisconsin County Histories and Find a Grave.
MR. JOHN D. JONES, CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Tachwedd 18fed, 1913, bu farw John D. Jones, Cambria, Wisconsin.Ganwyd Mr. Jones yn agos i Gonwy, sir Gaernarfon, Medi 7fed, 1836.
Daeth i'r wlad hon yn mis Awst yn y flwyddyn 1848, a sefydlodd yn ardal Welsh Prairie. Unwyd ef mewn priodas y 3ydd o Gorph. 1878, a Miss Mary Breese, o ardal Blaenycae.
Ganwyd iddynt dri o blant, David, John a Llewelyn, y rhai sydd erbyn hyn wedi dod yn fechgyn talentog a gwerthfawr ac yn llenwi lleoedd o urddas: David yn athraw yn mhrifysgol y Dalaeth; John yn fyfyriwr yn McCormick Seminary, Chicago, a Llewelyn yn athraw yn mhrifysgol Eau Clair, Wisconsin.
Yr oedd Mr. Jones yn un o'r hen sefydlwyr yn y cylch, a bu yn ddefnyddiol fel aelod o gymdeithas mewn gwahanol gyfeiriadau. Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys y M. C. yn Cambria, a bu yn aelod o fwrdd yr ymddiriedolwyr am amryw o flynyddoedd. Yr oedd yn wr o farn dda, ac yn Gristion gloew. Yr oedd fel y dywed y Salmydd, "yn un a wnelai gyfiawnder, ac a ddywedai wir yn ei galon - heb absenu a'i dafod, heb wneuthur drwg i'w gymydog."
Cafodd anwyd trwm, ac o herwydd gwendid ei gyfansoddiad profodd yn angeuol iddo. Nid oedd pryder yn ei feddwl pan yn marw; yr oedd yn ymwybodol ei fod yn myned i etifeddu yr addewid.
Gedy briod a thri o blant i alaru ar ei ol. Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn addoldy y M. C. yn Cambria, Tachwedd 21ain.
Tad yr amddifad a Barnwr y gweddwon fyddo yn amddiffyniad i'r galarwyr hyn.
J.O.P.