MRS. ELIZABETH EDWARDS POWELL. CHURCHILL, TRUMBULL COUNTY, OHIO.

ALLIANCE, OHIO

Y mae amryw bethau wedi dygwydd yn ein dinas yn ddiweddar, a ddylent fod wedi eu cofnodi yn y "Drych," cyn hyn.

Yn ddiweddar yn Sebring, Ohio, ryw dair milldir i'r dwyrain o'n dinas, bu farw un o'r Cymry hynaf yn yr ardaloedd hyn os nad oedd yn yr holl dalaeth.

Ei henw oedd Mrs. Edwards, ac adnabyddid hi oreu wrth yr enw Betty Powell. Bu byw yn Church Hill, am flynyddau. Yr oedd y Parch T. C. Davies, gynt o Pittsburgh, Pennsylvania, yn gydnabyddus iawn a hi. Deallwn ei bod yn ymyl cant oed.

Ganwyd hi yn rhywle yn ymyl y Bala, Gogledd Cymru, a mynych y byddai yn adrodd wrth ei chyfeillion hanes sasiwn ar Green y Bala.

Bu y Parch Morris S. Jones ac amryw o'r Cymry yn ymweled a hi amryw weithiau, a rhaid oedd iddynt gael cynal cyfarfod Cymraeg er budd yr hen chwaer, ac yr oedd hithau yn mwynhau yr ymweliadau hyny yn fawr.
W. J. Morris

Y Drych ~ Ionawr 8fed 1914.