MR. DAVID T. WILLIAMS. MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON CO, NEW YORK.
Bu farw y brawd uchod yn nghartref ei fab Thomas, yn Poultney, Vermont, Rhagfyr 9fed, 1913, a daethant a'i gorff oddi yno i dy ei frawd William ar ffordd Middle Granville.Ganwyd ef yn Glanmeurig, ger Bethesda, Arfon, yn Mawrth, 1836, felly buasai yn 78 mlwvdd oed yn mis Mawrth nesaf.
Enwau ei rieni, Thomas ac Elinor Williams; bu ei dad yn flaenor yn Amana er dechreuad yr achos yno hyd ei farwolieth yn 1892.
Ymbriododd a Catherine, merch John Griffith, Tanysgrafell, a bu iddynt saith o blant o ba rai y mae pedwar yn fyw.
Ymfudodd i'r wlad hon tua 57 mlynedd yn ol gan ymsefydlu yn y dyffrvn hwn ar hyd ei oes, ag eithrio rhyw ddwy flynedd y bu yn Quincy, Massechusets. Bu yntau fel ei dad yn gefn mawr i'r achos Annibynol yn y dyffryn hwn ar hyd ei oes faith, ac yr oedd yr achos mawr yn agos iawn at ei galon bob amser, ac ymdrechai wneyd ei oreu gydag ef.
Claddwyd ei weddillion y dydd Sadwrn canlynol, pryd y cafwyd gwasanaeth angladdol iddo yn nghapel Jerusalem (A.) am 2 o'r gloch, ac yr oedd llu wedi dod yn nghyd i dalu y gymwynas olaf o barch iddo. Gwasanaethwyd gan Parchn. Newton a Williams. Gadawodd i alaru ar ei ol dri mab ac un ferch, sef John o Boston; Ellen o Hoboken, New Jersey; Isaac a Thomas yn Poultney. Vermont, yn nghyd a dau frawd ac un chwaer (yr hon nid wyf yn gwybod ei henw), sef Thomas T. a William T. Williams, Granville, New York.
T. L. W.