PARCH. JOHN CADWALADER. CHICAGO, COOK COUNTY, ILLINOIS.
Chicago, Illinois, Mawrth 23ain, 1914. Nos Fawrth, yr unfed ar bymtheg o'r mis hwn, bu farw y gweinidog adnabyddus uchod, y Parch. John Cadwaladr, yn yr Oak Park Hospital, ar gyffiniau y ddinas hon.Byr oedd ei gystudd, ond dyoddefodd boenau dirfawr hyd nes yr ehedodd ei ysbryd at y Gwr fu'n wasanaethu mor ffyddlawn am flwyddi lawer.
Ganwyd yr ymadawedig yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, Rhagfyr, 1840. Derbyniodd beth o'i addysg yn Ysgol Barotoawl Mold; yna aeth am gwrs o efrydiaeth i Goleg Duwinyddol y Bala. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1862, a dechreuodd ar ei lafur yn Birmingham a Wolverhampton. Yn y flwyddyn 1866 ymfudodd i'r America, ac yn ystod yr wyth mlynedd a deugain dreuliwyd ganddo yma, bu yn gweinidogaethu yn Nhalaethau New York, Pennsylvania, Ohio, Illinois, a Wisconsin.
Yn 1899 derbyniodd y radd o ddoctor mewn duwinyddiaeth 0 Goleg Gale yn nhalaeth Wisconsin. Oddeutu tair blynedd yn ol rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny yn Big Rock, Illinois, a daeth ef a'i ibriod i breswylio gyda'u merch a'r teulu yn Oak Park.
Ymbriododd Awst 7fed, 1873, a Miss Sarah Hughes. Ganwyd iddynt chwech o blant; pedair o ferched a dau o feibion. O'r nifer yna mae tri yn fyw i ymuno a'r fam i alaru eu colled ar ol priod a thad tyner ac anwyl, sef Mrs. Gwendolyn Williams. Mrs. Miriam Maenk, a John Cadwaladr.
Cafodd gladdedigaeth neillduol o barchus. Gofalwyd am y gwasanaeth gan y Parch. Mr. Lee, gweinidog yr eglwys lle yr oedd yn aelod. Siaradodd yn uchel iawn am gymeriad a gweithgarwch yr ymadawediig. Cafwyd gair o deyrnged i'w goffadwriaetb hefyd gan y Parch. John E. Jones, o eglwys y South Side; Dr. J. A. Jenkins, o'r Warren Avenue Congregational Church; Proffesor Ward, o'r Chicago Theological Seminary; Dr. Gammil, Big Rock; Dr. J. Morriston Thomas. Ravenswood, a'r ysgrifenydd o eglwysi Hebron. Methodd y brawd John T. Jones o eglwys Humboldt Park a bod yn bresenol.
Claddwyd yn mynwent Forest Home. Mae cydymdeimlad cyffredinol a'r teulu yn eu dwfn drallod, yn arbenig y ferch, Mrs. William R. Williams, o herwydd gwaeledd ei phriod.
Nawdd y Nef fyddo drostynt.
Gwilym E. Jones.