MR. EVAN LEWIS DAVIES. COLUMBUS, OHIO.

Bu farw Evan Lewis Davies Ionawr 19eg, 1914 yn 91 mlwydd oed. Ni bu yn wael ond tua deg diwrnod cyn ei farwolaeth, a hyny ond gwaeledd henaint. Bu yn anymwybodol am tuag wythnos cyn iddo farw.

Ganwyd ef yn Pennal, sir Feirionydd, Rhagfyr 24ain, 1822, a phan yr oedd yn 30 oed ymfudodd i'r wlad hon, a sefydlodd am ychydig amser yn Marcy, gerllaw Utica. New York. Yn y flwyddyn 1852, daeth i Columbus, Ohio, lle y bu hyd ei farwolaeth.

Yn 1859, ymbriododd a Miss Elinor Humphries, yr hon a fu farw Hydref 17eg, 1911, ac o'r undeb ganwyd tri o blant, Richard Davies, 380 Kellogg Avenue, yw yr unig un sydd yn fyw, a chydag ef yr oedd yr ymadawedig yn cartrefu.

Yr oedd Mr. Davies yn aelod selog yn eglwys yr A. yn Columbus, ac yn presenoli ei hun yn y moddion yn gyson hyd ychydig fisoedd cyn ei farw, a'r hen Feibl Cymraeg oedd ei gydymaith gwastadol. Yr oedd hefyd yn aelod o'r Urdd I. O. O. F.

Bu Mr. Davies yn gweithio y rhan fwyaf o'r amser yn melin haiarn P. Hayden. Yr oedd yn ddyn o gyneddfau cryfion iawn, a gwelid ef hyd o fewn rhyw ychydig cyn ei farw yn rhodianu ar hyd a lled ein dinas.

Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn y cartref Ionawr 21ain, y Parch. Richard Thomas, o'r eglwys A., yn gweinyddu, a siaradodd yn dda am fywyd yr ymadawedig fel Cristion. Yr oedd hyn ya gysur mawr i'r teulu ac i bawb a oedd yn bresenol. Canodd y pedwarawd John D. Evans, John P. Jones, Elizabeth Jones a May Brunt amryw emynau. Yr oedd llu o nodeu dorchau fel arwydd o gariad tuag at yr ymadawedig ac o barch i'r teulu galarus.

Claddwyd ei weddillion ya mynwent y Green Lawn.
Gan Thomas Roderick.

Y Drych ~ Chwefror 12fed 1914.