MR. JOHN W. DAVIES. PLACERVILLE, CALIFORNIA.
BLODEUGLWM AR FEDD JOHN I BRYNLLWYD.
Megys taranfollt y disgynodd ar fy nghlust y newydd am farwolaeth y gwr anwyl sydd a'i ddarlun isod, a'm hathraw cyntaf yn yr Ysgol Sul i'm dysgu i ddarllen efengyl Iesu Grist, sef y diweddar John W. Davies, Placerville, California.Mab ydoedd i William W. Dafydd a'i briod o Frynllwyd, Bethesda, Arfon; ei fam yn ferch i'r duwiol bererin John Jones, Brynderwen Bach gynt. John W. Davies.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1852, ond profodd yntau fel llawer eraill bangfeydd a'r siomiant o golli ei rieni pan yn bur ieuanc; ond gan fod gan Ragluniaeth ddoeth lwybr arbenig wedi ei dori allan iddo yn y byd, bu i aden amddiffynol, yr hwn sydd dad i'r amddifaid ei gysgodi yn rhyfedd hyd nes y tyfodd i fyny yn wr ieuanc 21ain oed, hardd ei gorff a glan ei gymeriad. Gwelaf mewn adgof, fy hunan ar foreu gwyn yn edrych arno yn mysg lluaws eraill o'i gyfoedion, yn cychwyn o Fethesda yn yr oedran cynarol yma i gyfarfod yn Lerpwl yr agerlongau "Atlantic" a'r "City of Montreal." Hwyliodd mwyafrif ei gyfeillion ar fwrdd yr anffodus "Atlantic" a chollasant eu bywydau, ond cymerodd John y "City of Montreal," a chyraeddodd New York yn ddiangol ac iach.
Arosodd am oddeutu dwy flynedd gyda'i frawd, Evan W. Davies, yn Salem, New York, ond o herwydd fod calon dyner merch yn hiraethu am dano, aeth yn ol i Gymru ac ymunodd mewn glan briodas a'i anwyl Elizabeth, sef merch i John G. Prichard, Caellwyngrydd, Llanllecihid. Ganwyd iddynt fab a merch, ond Ow! er galar a siomiant cyffredinol bu farw ei anwyl briod, pan nad oedd eu merch fach ond ychydig ddyddiau o oedran.
Effeithiodd marwolaeth ei briod yn ddwys ar John Brynllwyd, ond rhoddodd yr amgylchiad pruddaidd gyfleusdra i'w wir gymeriad ddod i'r golwg yn ei ysblander eithaf fel tad tyner, drwy iddo yn ngwres ei gariad gysegru ei fywyd mewn modd neillduol, ac aberthu ei hunan ar allor serch a chariad Tad ffyddlawn i'w blant a choffadwriaeth ei briod.
Yr adeg hon, rhoddodd ei blant bach o dan ofal ei frawd, William Williams, Brynderwenbach, ac anturiodd ei hunan i aurgloddiau Awstralia, lle y gweithiodd yn galed am yr ysbaid o un milynedd ar bymtheg, ac ni chollodd fis drwy y blynyddoedd hyn, heb anfon yn gyson arian i'w frawd at gynaliaeth ac addysg ei blant. Enillodd lawer o arian yn Australia ond collodd hefyd gryn lawer ohonynt yno; a chollodd hefyd fwy na holl gyfoeth y wlad hono, sef ei iechyd, trwy i lwch y mwngloddiau ymgasglu i'w ysgyfaint ac ymffurfio yn afiechyd, pa un yn y diwedd a fu yn angeu iddo.
Yn y cyfamser tyfodd ei fab i fod yn Ysgolfeistr o ymddiried yn sir Fon, hefyd ferch fach, Mary, a ddaeth yn un o ferched ieueinc harddaf a glanaf ei phryd a'i chymeriad yn Bethesda. Aeth i wasanaethu mewn store yn Llundain ac yr oedd iddi y rhagolygon dysgleiriaf, ond daliwyd hithau gan siomiant yno, drwy i'w hiechyd dori i lawr a daeth yn ol at ei hewythr i Gymru, lle y bu yn orweddiog am ddwy flynedd. Cafodd wella i raddau fel ag i allu ymlwybro ychydig drwy gymorth, ond ni chafodd adferiad llwyr hyd heddyw.
Yn wyneb yr amgylchiadau hyn, daeth John yn ol i Gymru, a threuliodd rai misoedd gyda'i anwyl blant; yna anturiodd drachefn i Newfoundland at ei frawd Evan, ond gan fod ei ferch yn parhau yn hynod wael, aeth yn ol i Gymru gan aros yno am chwe mis. Yna daeth drosodd i'r Talaethau Unedig gan aros yn Granville, New York, i weled perthynasau a chyfeillion ar ei ffordd i California, lle y bu yn gweithio am dymor mewn chwarel yn agos i Placerville. Ond yno drachefn daeth i deimlo fod llwch Awstralia yn ei ysgyfaint yn anfantais iddo, a rhoes heibio weithio yn y chwarel gan brynu darn o dir yn ymyl tref Placerville.
Gweithiodd yn ddiwyd ar ei dir hyd nes y cafodd ef i sefyllfa briodol. Planodd ganoedd o goed ffrwythau amrywiol arno gan gymeryd y dyddordeb a'r gofal manylaf o'i blanhigion, a thystiai arolygwr coedffrwythau y dalaeth y byddai yn bleser o'r mwyaf ganddo ymweled a pherllan odidog John Brynllwyd. Ond yma eto teimlai fod ei afiechyd, yn cael y llaw uwchaf arno, a phenderfynodd ddod i Poultney, Vermont, at ei frawd erbyn y Nadolig, 1913, ac yna myned yn mlaen adref i Gymru at ei anwyl blant. Ond yr oedd wedi rhedeg i gymaint llesgedd fel na chaniatai ei feddyg iddo ymgymeryd a'r daith.
Cymerwyd ef i sanitarium yn Placerville, ac er gwaethaf holl ymdrechion y meddygon a'r nyrses, ac hefyd ei anwyl a ffyddlon gyfaill, D. L. Williams, yr hwn a hysbysai yn ddyddiol gyflwr ei iechyd i'w frawd yn Poultney, Vermont, ehedodd ei ysbryd yn dawel i fynwes ei Waredwr bendigedig, yr hwn a garai yn angerddol, er yn fachgen.
Dygwyd ei weddillion i Middle Granville, New York, a chafodd angladd anrhydeddus yno Chwefror 3ydd, 1914, pryd y gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchedig William O. Williams, Granville, a derbynied preswylwyr Middle Granville a'r cylch ddiolchgarwch puraf ei frawd, Evan W. Davies, am eu caredigrwydd dihafal, a'r ffyddlondeb a'r parch a ddangoswyd ganddynt i weddillion ei anwyl frawd. Yn ychwanegol at y rhai a nodwyd, gedy i alaru ar ei ol frawd o'r enw Richard yn Manchester, Lloegr.
Tystiolaeth ei gyfaill ffyddlon, D. L. Williams, Placerville, i'w frawd am dano ydyw: "Gwelais yn fy nydd lawer tad, ond sicr genyf mai dyma y tad ffyddlonaf i'w blant a welais erioed; y mae wedi aberthu pob peth er eu mwyn, a chollasant drwy ei farwolaeth y tad tirionaf; chwithau a amddifadwyd o frawd anwyl, a minau o'm hunig gyfaill. Nid oes yma neb wedi i John fynd." A'm profiad inau ydyw, collais fy athraw cyntaf, yr hwn a gedwais bob amser o flaen fy meddwl, fel cymeriad teilwng o'm hefelychiad, pan fu farw John Brynllwyd, ond "Na wylwn fel rhai heb obaith genym." Heddwch i'w lwch.
Gan Gwlithyn.