MRS. ANN HOWELLS EDWARDS, LEBO, COFFEY CO., KANSAS.

After suffering for several weeks from a complication of diseases and the infirmatives of age "Nain" Edwards died at the home of her son A. H. Edwards, in this city at the advanced age of nearly 85 years.

Ann Howell Edwards, known by the entire community as "Nain," was one of the early settlers of Osage City and the Arvonia community, coming to Kansas in 1870. She was one of those good old motherly women, always solicitious of the welfare and comfort of others - never thinking of self, bur ever doing something for others. She will be greatly missed in the Edwards home as she was always threr and always busy doing little things that her hands could find to do. She lived a good conscientious Christian life and was really a "Mother of Israel." She had been a member of the Congregational church since childhood, until just recently when she lost her membership here and united with the M. E. church.

The funeral was held Monday afternoon from the Methodist church and was preached by Rev Funston, assisted by Rev Glynn Williams of Arvonia who spoke in Welsh. The remains were laid to rest besdie those of her husband who died very suddenly in December 1909.

Born Septmebrt 1st, 1829 at Llanuwchllyn, near Bala, North Wales, died at her home in Lebo, Kansas, April 4th, 1914, aged 84 years. She came to America in 1850 with her father, Llewellyn Howell, four brothers and five sisters and settled at Utica, New York. She was married in 1858 to Robert R. Edwards at Utica. They moved to Conneticut shortly afterwards where their son Albert H. Edwards was born in 1861. They went back to New York state five years later to live at Holland Patent where Mary Edwards was born in 1868. They moved to Brookfield Ma., when Mary died.


MRS. ANN HOWELLS EDWARDS, LEBO, COFFEY CO., KANSAS.

Ebrill 4ydd, 1914, yn nghartref ei mab yn Lebo, Kansas, bu farw yr hen chwaer Ann Howell Edwards, gweddw Robert R. Edwards, hyhi wedi cyraedd yr oedran teg o 84 mlwydd oed.

Ganwyd Mrs. Edwards yn Llanuwchllyn, ger Bala, Meirionydd, Gogledd Cymru, a daeth gyda'i rhieni i'r wlad hon yn 1850, gan sefydlu yn Utica, New York.

Yn 1859, yn Utica, unwyd hi mewn glan briodas a Robert R Edwards, a ganwyd o'r briodas fab a merch, sef Albert H. a Mary. Bu Mary farw yn Brookfield, Missouri, yn y flwyddyn 1868, pan nad oedd ond dwy flwydd oed.

Wedi symud amryw weithiau, treuliodd Mrs. Edwards y 17 mlynedd diweddaf gyda'i mab yn Lebo, Kansas, lle y cafodd bob gofal, caredigrwydd a thiriondeb yn ei hen ddyddiau.

Yn ei hangladd siaradwyd yn barchus am dani gan y Parch. Fumston (M. E.) a Williams (A.), a nodid hi allan fel un gwerth ei hefelychu yn ei chrefyddolder. Canwyd nifer o emynau pwrpasol gan barti o ferched, ac unawd gan Evie Jones.

Heblaw y mab a nodir uchod, gedy mewn galar ddwy chwaer, sef Mrs. William H. Jones, Utica, New York, a Mrs. E. H. Thomas, Pittsburgh, Pennsylvania.

Y Drych ~ Ebrill 30ain 1914


MRS. ANN HOWELLS EDWARDS, LEBO, COFFEY CO., KANSAS.

Ar y 4ydd dydd o fis Ebrill, dyma y newydd fod Nain Edwards, Lebo, wedi marw, wedi bod yn gystuddiol am amryw o wythnosau o wendid a henaint yn yr oedran teg o 84, mlwydd, saith mis a 4 diwrnod.

Bu Mrs. Ann Howell Edwards farw yn nhy ei mab, A. H. Edwards, Lebo, Kansas. Yr oedd Mrs. Edwards yn un o'r hen sefydlwyr yn Arvonia ac Osage City. Daeth hi a'i phriod Robert R. Edwards yma yn 1870, lle y buont byw yn Arvonia am dair blynedd ac wedyn symudasant i Osage City, lle y buont yn byw am saith mlynedd. a daethant yn ol i Arvonia gan sefydlu ar ei fferm ar y Coal Creek, lle y buont fyw am 17 mlynedd yn bur llwyddianus, ac aethant i fyw efo'u mab, Alb. Edwards, yn Lebo, a dyma lle y treuliodd y 17 flwydd diweddaf o'i hoes.

Yr oedd yn aelod o'r eglwys Annibynol er yn blentyn, a daeth i gapel Arvonia hyd y gallodd, ac yr oedd hi yn fam yn Israel, yn un o'r gwragedd ffeindiaf, a bob amser yn barod i helpu os y buasai angen ar ryw un, ac yn gymydoges fwyaf tawel ac wedi byw bywyd Cristionogol ar hyd ei hoes, ac, O, yr ydym yn teimlo yn chwith o'i cholli o'n plith!

Cafodd angladd hynod o barchus. Rhoddwyd hi i orphwys yn y Lincoln Cemetery, Lebo, y dydd Llun canlynol. Cynaliwyd y gwasanaeth yn nghapel Methodist Lebo, pryd yr oedd yn gwasanaethu y Parch. Mr. Funston, ei gweinidog, yn Saesneg, a'r Parch. J. Glynn Williams, Arvonia, yn Gymraeg.

Claddwyd hi wrth ochr ei phriod, yr hwn oedd wedi ei rhagflaenu. Bu Mr. Robert R. Edwards farw yn sydyn iawn yn mis Rhagfyr, 1909.

Ganwyd Ann Howell Edwards yn Llanuwchllyn, gerllaw Y Bala, Gogledd Cymru, Medi y cyntaf yn y flwyddyn 1829, a daeth i'r America yn y flwyddyn 1850 gyda'i thad, Llewellyn Howell, a phedwar brawd a phump chwaer a sefydlasant yn Utica, New York, ac yn y flwyddyn 1859, priododd hi a Robert R. Edwards yn Utica, New York.

Symudasant i Danbury, Connecticut, ac yno y ganwyd ei mab Albert H. Edwards, ac wedi hyn aethant yn ol i Dalaeth New York, a buont yn byw yn Holland Patent, ac yno y ganwyd ei merch, Mary. Symudasant wedyn i Brookfield, Missouri, yn y flwyddyn 1868, ac yno lle bu Mary ei merch farw. Daethant i Arvonia, Kansas, yn y flwyddyn 1870.

Gadawodd un mab, sef Albert H. Edwards a'i deulu yn Lebo, Kansas, mewn galar dwys ar ol ei anwyl fam. Mae cydymdeimlad yr ardal gyda'r teulu galarus hwn. Heblaw y mab gadawodd Mrs. Ann H. Edwards ddwy chwaer: Mrs. J. W. Jones yn Utica, New York, a Mrs. E. H. Thomas yn Pittsburgh, Pennsylvania.

Nawdd y nef fo dros y teulu i gyd yn eu galar.

Y Drych ~ Mai 14eg 1914