MRS. ELIZABETH 'LIZZIE' JONES EDWARDS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Wedi ei chystuddio ysbaid chwech wythnos, bu,farw y chwaer hoffus Mrs. Lewis P. Edwards, 24 Kemble Street, brydnawn ddydd lau, Mai 14eg, a hyny i raddau yn annysgwyliadwy. Oddeutu; chwech wythnos yn ol, cafodd anwyd trwm, a bu yn cadw yn y ty am rai wythnosau, ond yr oedd ei chyfeillion a pherthynasau yn ffyddiog iawn ei bod dros y gwaethaf, ond yn hynod sydyn, trodd ei hafiechyd yn pneumonia, a methodd ei chyfansoddiad a wanhawyd gan yr wythnosau blaenorol o afiechyd a dal dan y baich, ac ehedodd ei hysbryd at yr Hwn a'i rhoes ar y dyddiad a nodwyd, hyhi o fewn ychydig ddyddiau i fod yn 63 oed.Gwraig dda i'w phriod, i'w theulu, i'w chyfeillion ac i grefydd: oedd Mrs. Edwards. Bu'n ffyddlon yn ei holl gylch; ni adawodd ei theulu i redeg ar ol mwyniant cymdeithas, ac ni anghofiodd y capel mewn gofal teuluol. Bu'n ffyddlon i'w theulu ac i'r capel, unodd y ddau, a magodd bedwar o blant hardd eu rhodiad, sy'n anrhydedd iddi hi a'i phriod, y rhai gyda'u tad a adewir mewn galar mawr. Eu henwau ydynt: Mary J., Robert J., Margaret C., ac Ernest L., yr oll yn aelodau yn eglwys Moriah. Y mae iddi hefyd un chwaer, sef Mrs. David S. Jones, Bangor, Pennsylvania, yr hon gyda'i merch Mary, a Mrs. Ellen Jones a Tom Roberts, o Plymouth, Pennsylvania, a Mrs. Gwen Jones, o Westmoreland, New York, oedd yn bresenol yn yr angladd.
Ganwyd Mrs. Edwards yn Mhenmachno, Arfon, Gogledd Cymru. Ei henw morwynol ydoedd Lizzie Jones, hyhi'n ferch i John a Mary Jones, Groesffordd, yr ardal hono, a ganwyd hi yn y flwyddyn 1861.
Unwyd hi mewn priodas a Lewis P. Edwards, yn nhref Llanrwst, yn y flwyddyn 1888, a daethant i'r wlad hon, gan sefydlu yn Utica, rhyw flwyddyn a haner wedi eu priodas. Yn Utica y treiliodd y gweddill o'i hoes, ond bu ar ymweliad a gwlad ei maboed ychydig dros ddwy flynedd yn ol, a threuliodd amryw wythnosau yn ei hardal enedigol, a gofidus, fydd y newydd am ei marwolaeth i'r llu cyfeillion a pherthynasau iddi yn Mhenmachno, Lerpwl a manau eraill.
Tra yn Utica, bu Mrs. Edwards yn wasanaethgar mewn amryw gylchoedd. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Ladies Aid Moriah, ac yn un o ymddiriedolwyr cyfrinfa Gwenfron o Urdd y Gwir Iforiaid Americanaidd.
Mae galar yn ei theulu am briod a mam dda, a chydymdeimlir a hwy yn fawr. Cymerodd ei hangladd le y dydd Sadwrn dylynol. Cynaliwyd gwasanaeth annghyhoedd yn y cartref ar Kemble Street am 2 o'r gloch, a gwasanaeth cyhoeddus. yn Moriah yn dylyn, y Parchn. D. Morgan Richards a J. Isaac Hughes yn gweinyddu. Yr oedd cynulliad mawr wedi dod yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i weddillion eu ffrynd, ac yr oedd cyfrinfa Gwenfron yn bresenol yn un corff. Yn mhlith y llu blodau oedd ar ei harch yr oedd rhai oddiwrth John C. Heiber Co., Central Stone Co., Bird, Jones and Kenyon, y Philharmonics, Ladies Aid Moriah a cyfrinfa Gwenfron Rhif 5, Urdd y Gwir Iforiaid.
Fel arch-gludwyr gwasanaethai Hugh T. Jones, William Jones, Thomas H. Jones, Griffith Jones, William J. Williams a Hugh Jones.
Y Drych ~ Mai 21ain 1914.
MRS. ELIZABETH 'LIZZIE' JONES EDWARDS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Death removed a highly esteemed resident of the city in the passing of Mrs. Lewis P. Edwards, which occurred at her home, 1228 Kemble street, at 3:30 p. m. Thursday.Mrs. Edwards, who was Elizabeth Jones, was born in Wales May 31, 1860. Twenty-five years ago she married Mr. Edwards in Wales and three years later they came to this country, settling in Utica. Mrs. Edwards was an earnest and active member of Moriah Church, and of the Ladies' Aid Society connected with the church. She was also a member of Gwenfron Lodge, O. A. T. I.
Besides her husband, Lewis P. Edwards, she leaves a sister, Mrs. D. G. Jones of Danville, Pa., two daughters, Mary and Margaret and two sons, Robert J. and Ernest Edwards.
"Funeral services for Mrs. Lewis P. Edwards were held from her late residence, 1228 Kemble street, at 2 p. m. yesterday and at 2:30 from Moriah Church where services were conducted by the Rev. D. Morgan Richards and the Rev. J. Isaac Hughes. There was a large attendance at the services. The floral tributes including designs from the employes of the Central Stone Company, John C. Hieber and Co., and Jones and Kenyon, the Utica Philharmonic Society, the Ladies' Aid Society of Moriah Church and from the Lodge of True Ivorites, No. 5. The True Ivorites attended the funeral in a body.
The bearers were: Hugh T. Jones, William Jones, Thomas H. Jones, Griffith Jones, William J. Williams and Hugh Jones. Those present from out of town were Mrs. David S. Jones and daughter Mary of Bangor, Pa., Mrs. Ellen Jones, Thomas Roberts of Plymouth, Pa., and Mrs. Gwen Jones of Westmoreland.
Interment was made in Forest Hill Cemetery.