MRS. CATHERINE ELLIS. MILWAUKEE, WISCONSIN.

Hyfrydwch i mi fel un a dderbyniodd lawer o garedigrwydd oddi ar ei llaw, ydyw cydymffurfio a chais ei mab a'i merch a'u gweinidog, y Parch. Henry K. Jones i ysgrifenu ychydig nodiadau am yr hen fam, Mrs. Catherine Ellis, Milwaukee, i ymddangos yn y "Drych" fel teyrnged fechan o barch i'w choffadwriaeth. Haeddai ei chofio canys un o "werthfawr ferched Seion ydoedd," a hefyd yr oedd yn un o hen dderbynwyr y "Drych," yn adnabyddus i gylch eang o'i dderbynwyr, a diau y bydd yn dda gan lawer ddarllen ychydig o'i hanes.

Ganwyd Mrs. Ellis Chwefror 19eg, 1830, yn Ty'nytwll, Bryn'refail, plwyf Llanddeiniolen, Caernarfon, a'i henw morwynig ydoedd Catherine Williams.

Ymfudodd i America yn gynar yn 1852, arosodd am flwyddyn yn New York, yna yn 1858 daeth yn mlaen i Wisconsin gan ymsefydlu yn Fox Lake yn agos i ardal Gymreig Blaenycae, lle yr oedd amryw herthynasau iddi yn byw, ac yn eu mysg yr adnabyddus Foulk Roberts.

Croesodd y mor mewn hwyl-long o'r enw Emmersfer a bu saith wythnos ar y dwr. Gwnaeth y daith rhwng New York a Buffalo ar y canal a rhwng Buffalo a Chicago ar y llynau, ac o Chicago i Fox Lake; Wisconsin, mewn cerbyd.

Yn 1858, priododd Ellis W. Ellis, Milwaukee, ac yno y bu y teulu yn byw am 14 mlynedd. Mr. Ellis yn beirianydd dan gwmni y ffordd haiarn. Yn 1872 symudodd y teulu ar fferm i ardal Blaenycae lle y trefnwyd cartref cysurus ger llaw y capel. Yma eto cafodd ein chwaer gyfle da i amlygu ei charedigryydd i achos yr Arglwydd trwy letya pregethwyr ac eraill, megys yr oedd ei thy, tra yn Milwaukee, wedi bod yn gartref i ieuenctyd oddi cartref oeddynt yn gwasanaethu yno.

Yn 1851, bu farw Mr. Ellis gan adael ein chwaer yn unig, canys yr oedd ei mab Ellis F. a'i merch Elizabeth eisoes wedi priodi ac yn cartrefu yn Milwaukee. Wedi trefnu'r amgylchiadau ar y fferm, yn 1893 symudodd Mrs. Ellis at ei merch yn Milwaukee, ac yno y treuliodd weddill ei hoes. Yn ei blynydda olaf yr oedd wedi ei hanalluogi i gryn raddau gan boen yn ei haelodau a diffyg anadl, ond cafodd bob gofal yn ei hen ddyddiau a allasai y plant cariadlawn ei estyn iddi.

Bu farw boreu Iau, Ebrill 16eg, 1914. Cynaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol yn Milwaukee nos, Wener, a boreu Sadwrn, y 18fed, awd a'r corff i Randolph, lle y cynaliwyd gwasanaeth yn y capel, ac ar ol y gwasanaeth claddwyd hi yn mynwent y pentref. Gwasanaethwyd gan yr ysgrifenydd, y Parch. O. O. Jones a'i gweinidog, H. K. Jones.

Hen gymeriad plaen, dirodres, a'i "gair garwaf yn flaenaf" oedd Mrs. Ellis. Nid oedd eisieu blynyddau o ymgydnabyddu, megys gyda rhai, i'w hadnabod hi. Hoffai gymdeithas ac yr oedd yr elfen atdyniadol yn gref yn ei natur. Yr oedd nain Ellis yn anwyl gan y plant, yn barchus gan y bobl ieuanc, ac yn hoffus gan yr hen. Nid ydym yn gwybod nemawr am gychwyn ei gyrfa grefyddol pellach nag mai yn eglwys Loegr y cafodd ei magu. Ond hyn sydd dra sicr, cafodd afael ar grefydd ryw bryd ac yn rhywle, a chymerodd crefydd afael gref ar ei hysbryd hithau.

Yr oedd "anian" crefydd yn ei chalon ac yr oedd pethau crefydd y pethau uchaf yn ei meddwl. Anfynych y cwrddid a neb yn cymeryd mwy o ddyddordeb yn y capel, yn fwy ffyddlon i'r ordinhadau, yn fwy parchus o'r gweinidog ac yn fwy teyrngarol, ac yn meddwl mwy am ei enw ef na hi. Parhaodd yn ieuengaidd o ran ei hysbryd hyd y diwedd. Yr oedd wrth ei bodd yn nghyfarfodydd y plant a'r ieuenctyd ac yn eu cefnogi yn galonog yn eu symudiadau gyda'r achos. Teimlai ddyddordeb yn holl foddianau yr eglwys, ac yn hyny yr oedd yn esiampl dda i'w hefelychu. Mae rhai ydynt yn ffyddlon iawn i rai cyfarfodydd, ond byth y gwelir hwy mewn cyfarfodydd eraill, ond am nain Ellis yr oedd hi yn ffyddlon i bob cwrdd fel eu gilydd.

Fel arwydd o'i gofal am yr achos gadawodd $500 yn ei hewyllys i'r eglwys yn Milwaukee ac nid iawn am esgeulusdra a chrintachrwydd yn ei bywyd oedd hyny, canys yr oedd yn haelionus ei chyfraniadau bob amser. Gwna y rhodd hon at achos Iesu Grist annhraethol fwy i anfarwoli ei henw ac anwylo ei choffadwriaeth na phe buasai wedi neillduo yr un swm i roi careg ar ei bedd.

Cydymdeimlwn ag eglwys Milwaukee yn ei cholled o un arall o'i hen golofnau, ac eiddunwn fendith Duw i'r mab Mr. Ellis F. Ellis a'r ferch Mrs. Evan H. Jones a'r perthynasau oll yn eu galar ar ol hen fam y mae yn bur anhawdd taro ar ei rhagorach.
Parch. J. E. Jones, Chicago, Illinois.

Y Drych ~ Mai 28ain 1914.