MR. JOHN R. ELLIS. MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.

Brydnawn dydd Llun, Awst 17eg, cafodd y brawd John R. Ellis, stroke pan gyda'i orchwyl yn y chwarel, a daethpwyd ag ef adref yn uniongyrchol. Cyn cychwyn o'r chwarel am gartref yr oedd yn gwybod pob peth ac yn siarad yn rhwydd, ond ar y ffordd wrth ei gario gartref yr oedd wedi myned yn hollol ddiymadferth, nid oedd yn gwybod dim o gwbl oddiwrtho ei hun, ac ni lefarodd yr un gair o gwbl, a bu yn y cyflwr yna hyd ei ymddatodiad yn yr angeu.

Boreu ddydd Sadwrn, Awst 22ain, bu farw yn union fel y bu byw, yn hollol dawel. Bu ei fywyd ar ei hyd yn un mwyn, hawddgar, tawel, ac yr oedd pawb yn hoff iawn o hono.

Daeth yr ymadawedig i'r wlad hon dair blynedd a deugain yn ol. Yr oedd yn fab i'r diweddar Robert Ellis, Cae Canol, Fachwen, Gogledd Cymru. Treuliodd 41 mlynedd o'r rhai hyny yn Granville, New York. Bu ef a'i briod yn yr Hen Wlad am dro 13 mlynedd yn ol, wedi iddo fod yn absenol oddi yno am 30 mlynedd, ac yr oedd yn falch o'i galon ei fod wedi cael cyfleusderau i dalu ymweliad a'i hen gartref, yr hwn a adawodd pan yn ugain mlwydd oed, ac yr oedd wedi meddwl y buasai yn cael talu ymweliad buan yno wedyn, ond nid felly y bu.

Yr oedd ganddo ddau frawd, a dwy chwaer yno y pryd hyny, ond heddyw nid oes ond un yn fyw, sef ei chwaer, Mrs. Emanuel R. Jones, Cae Canol, Fachwen, yr hon yn nghyd a'i briod, Mrs. Ifor Parry Ellis, sydd wedi ei gadael yn amddifaid i alaru ar ei ol.

Yr ydym yn cyflwyno ein cydymdeimlad llwyraf a hwy yn eu profedigaeth chwerw o golli o'u mysg un oedd anwyl iawn ganddynt, ac y mae Mrs. Ellis yn dymuno cyflwyno ei diolchgarwch mwyaf i bawb am yr hyn a wnaethant iddi yn ystod gwaeledd ei diweddar briod, ac am y cydymdeimlad cyffredinol y maent yn ei arddangos tuag ati yn ei phrofedigaeth.

Yr oedd yr ymadawedig yn 63 mlwydd oed a 5 mis. Cymer yr angladd le ddydd Mawrth, Awst 25ain, am 2 o'r gloch, yn capel Peniel (T. C.), lle yr oedd ein hanwyl frawd yn aelod.

Y Drych ~ Awst 27ain, 1914.