MR. EVAN E. EVANS. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Ebrill 4ydd, 1914. Ar y 23ain o Fawrth, yn ysbyty Drefol Rutland, Vermont, bu farw yr addfwyn a'r caredig Evan E. Evans, adwaenid oreu wrth yr enw Evan Watkin.

Derbyniodd niweidiau trymion yn chwarel y D. C. Sherman Slate Company, o'r lle hwn rai wythnosau yn ol. Symudwyd ef o'i gartref i'r ysbyty, a bu farw o waedwenwyniad mewn canlyniad i'r niweidiau dderbyniodd ar ol wythnosau o ddyoddefaint.

Ganwyd ef yn Mwlch y Gwynt, Dinorwig, Arfon, ar y 3ydd o Orphenaf, 1857. Enwau ei rieni oeddynt Evan Watkin Evans a Mary Evans; bu ei dad farw yma tua phedair blynedd ar ddeg yn ol, a dylynwyd ef gan y fam oedranus ryw ddwy flynedd yn ol. Un o neillduolion bywyd yr ymadawedig oedd ei ymlyniad ffyddlon a diysgog wrth ei rieni; bu iddynt bob amser yn wyliedydd parod ac egniol ac yn dwr o amddiiffynfa.

Gadawodd i alaru ar ei ol ei weddw, Jane Evans, a dwy chwaer, sef Jane (Mrs. William E. Thomas, Tan Coed) yn Fairhaven, a Mary (Mrs. Robt. Williams, Bob Saer) dinas New York.

Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol o'i gartref, y Parch. J. W. Morris yn gweinyddu, a chladdwyd ei weddillion yn mynwqnt Poultney, brydnawn ddydd Jau, Mawrth y 26ain.
T. P. E.

Y Drych ~ Ebrill 9fed 1914.




The Bethel Courier, Vermont ~ January 23rd 1913.