MR. GRIFFITH R. EVANS. WEST BANGOR. PENNSYLVANIA.

Ebrill 29ain 1914. Boreu Sabboth, 26ain, bu farw y brawd Griffith R. Evans.

Nos Sadwrn, Ebrill 18fed, cafodd ergyd drom o'r parlys, yr hon a'i llwyr analluogodd. Ni ddywedodd air, ac nid yw yn debyg iddo deimlo dim ychwaith, ond boreu Sabboth tua 8 o'r gloch, ymadawodd yr hyn oedd yn weddill o'r rhan fywydol er galar i'r teulu a phryder i'r gymydogaeth. Yr oedd yn un a hoffid gan bawb, yn ddyn heddychol a thawel, a byddai yn well ganddo ddyoddef na chweryla.

Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwy a elwir yn blant i Dduw. Dyma un o nodweddion amlwg y brawd hwn.

Brodor o Aberllefeni, Meirion, ydoedd, a mab i'r diweddar Hugh Evans a'i briod Tynycae. Yr oedd yn un o naw o frodyr a'r ieuengaf, ac yr oeddynt oll wedi ei ragflaenu yn y wlad hon: Humphrey Evans ac Edward W. Evans yn Delta: William R. Evans yn Granville, a Hugh R. Evans yn y cyffiniau.

Yr oedd yn un o aelodau ffyddlonaf eglwys Rehoboth. Gwelwn ei golli mewn llawer cylch, yn enwedig yr Ysgol Sabbothol a'r cyfarfod canu. Gadawodd mewn galar ar ei ol briod a phedwar o blant: Richard Hugh yr hynaf o'r meibion mewn coleg yn parotoi ar gyfer y weinidogaeth, a William T. yn Philadelphia, a Miss. Evans a'r mab ieuengaf, Preston, adref gyda'u mam.

Daeth tyrfa hardd a pharchus i anrhydeddu ei goffadwriaeth dydd yr angladd. Yr oedd yn perthyn i gymdeithas y Red Men, y rhai droisant allan yn gryno i anrhydeddu coffadwriaeth eu brawd. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn. W. C. Rowlands ac A. L. Hyde.

Rhoddwyd ei gorff i orphwys yn mynwent Slateville. Heddwch i'w lwch.
W. C. Roberts.

Y Drych ~ Mai 14eg 1914.