MR. WILLIAM R. EVANS. NELSON, MADISON COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 21ain, 1914. Y mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth un o hen drigolion Nelson unwaith eto, sef y brawd William R. Evans.

Bu farw nos Lun, y 9fed cyflsol. Cymerwyd ef ymaith yn sydyn iawn. Bwytaodd ei giniaw dydd Llun 'run fath ag arfer, yna aeth allan i'r ysgubor i borthi yr anifeiliaid, ac aeth Mrs. Evans ar ei ol yn mhen ychydig o fynydau, a chafodd ef ar lawr wedi ei daraw gan ergyd marwol o'r parlys. Bu farw cyn canol nos yr un noswaith.

Ganwyd ef yn Bronbiben, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1840. Daeth ef a'i briod i'r wlad hon yn 1871, ac i Nelson, lle y treuliodd y rhan fwyaf o weddill ei oes. Bu yn amaethu yn agos i West Eaton am 29ain. Byddai yn teimlo hyd y byw bob amser am eu bod yn byw yn mhell oddiwrth y capel, ond er hyny byddent yn ffyddlawn iawn yn dod i'r gwasanaeth bob amser y byddai yn bosibl er eu bod yn gorfod teithio deg milldir gyda'r ceffylau bob tro.

Bydd yn golled fawr i eglwys Peniel ar ol un mor ffyddlawn i'r achos, ac fel cyfranwr hefyd.

Yn y flwyddyn 1911, gan fod ei iechyd wedi pallu, gwerthasant eu fferm a phrynasant le bychan yn ymyl pentref Nelson Flat.

Gadawa i alaru ar ei ol weddw a phedwar o blant, un mab Hugh T. Evans, Amberville, New York; tair merch, Mrs. Nelson Richards, Miss Maggie Evans, Nelson; a Mrs. Roscoe Hart, New Hartford, New York; ac un brawd, Evan J. Evans, Morrisville; y diweddaf yn aros o deulu o ddeuddeg o blant. Hefyd pedwar o wyrion ac wyresau; un o honynt yn briod i'r Parch. J. M. Pritchard, Wilkes-Barre, Pennsylvania.

Daeth tyrfa luosog i gapel Peniel dydd Gwener canlynol i dalu y gymwynas olaf iddo, a chladdwyd ef wrth ochr tri o'r plant oedd wedi ei flaenu yn mynwent Peniel, y Parch. Abram Jones, Plainfield, New York, yn gweinyddu, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. L. F. Kelsey, Nelson. Duw a fyddo yn nodded iddynt oll yw ein dymuniad. Bu y rhai canlynol yma yn yr angladd: Hugh T. Evans, Amberville, New York; John Pugh, Hoboken, New York; William Pugh, Morrisville, New York; E. J. Evans, Deerfield; Mr. a Mrs. Hugh E. Pugh, Oneida; Mr. a Mrs. David Jones, Utica; Mrs. Anna Sheppard, Leonard Evans a Mr. a Mrs. John H. Evans, Cazenovia.

Y Drych ~ Chwefror 26ain, 1914.