MISS. MAY GRIFFITH. GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.

Gofidus genym gofnodi marwolaeth annysgwyliadwy y foneddiges ieuanc uchod yr hyn a gymerodd le ar yr 8fed o'r mis hwn yn St. Vincent's Hospital, New York.

Cymerwyd hi yn wael, fel y tybid ar y pryd, o ptomaine poisoning, ond a drodd allan mai "acute kidney trouble"'oedd. Cymerwyd hi i'r ysbyty uchod er ei rhoi dan y gyllell, yr unig obaith am adferiad iddi. Gan ei bod yn unig yn y ddinas, caniatawyd i Mrs. D. J. Williams a Mrs. Tom Rees fod gyda hi ac i aros hyd nes y daeth yn ymwybodol.

Yr oedd ysgydwad pen y Sisters a'r Dr. yn peri i ni ofni y pryd hyny el bod yn anoheithiol, er hyny, bu fyw o'r 2il hyd yr 8fed o Orphenaf, a dyoddefodd boenau arteithiol yn hynod ddystaw a dirwgnach ac yn hollol ymwybodol o bob peth hyd y diwedd.

Merch ydoedd i Mr. a Mrs. R. a Dorothy Griffith, gynt o Cae'rberllan, Bethesda, Arfon, ond yn awr o Mountain Ash, De Cymru, a pha rai y mae cydymdeimlad llwyraf llu o Gymry New York, ac aelodau 11th St., o'r hon eglwys yr oedd May yn aelod ffyddlon iawn er pan ddaeth i'r ddinas agos i dair blynedd yn ol, a seiat 11th St. oedd y lle diweddaf y bu ynddo.

Bydd yn gysur i'w rhieni sydd yn eu dwfn drallod a hiraeth wybod fod iddi air da gan bawb a'i hadwaenai. Daeth Mrs. Parry o Thousand Islands yma i gymeryd go- fal ac i wasanaethu hyd y gellid ar May hyd y diwedd.

Cynaliwyd gwasanaeth angladdol nos Iau, y 9fed, yn mharlwr St. Vincent's Hospital, pryd y cymerwyd rhan gan y Parch. W. Fink, 13th St. English Presb. Church. Daeth lluaws o aelodau 11th St. a llu o gyfeillion ieuainc yn nghyd, a chyfeiriwyd yn dyner neillduol at rieni yr ymadawedig gan Mr. Fink, y rhai oedd mor anwyhodus o'r holl bethau oedd wedi dygwydd ac yn cymeryd lle y noswaith hono, ac am i'r Duw a'r Tad sydd yn gallu bod bob ochr i'r dwfr fod yn gymorth neillduol iddynt pan dderbyniant y newydd trwm o golli eu May.

Bydd yn help iddynt ymgysuro fod pob peth allai meddygon goreu New York wedi cael ei wneyd, rhoddodd y foneddiges y gwasenaethai iddi orchymyn nad oedd traul o fath yn y byd i'w arbed er adfer May os yn bosibl, ond angeu orfu er yr oll.

Aethpwyd a'i gweddillion i Granville i'w daearu yn meddrod ei nain, sef Mrs. Robt. Griffith (Penybonc), gynt o Bethesda, yn ngofal Mr. a Mrs. D. Parry (modryb ac ewythr); Miss Alice Hughes a J. Thomas. Anfonwyd blodau dorchau gan a ganlyn: 11th St. Ladies Aid Society, Young People's Society, Mr. J. Thomas, Miss Sarah Jones, a. Mrs. Kleine.

Derbynied y teulu oll ein cydymdeimlad llwyraf fel Cymry yma. Duw a roddo nerth iddynt i ddal y ddyrnod drom hon.

Y Drych ~ Gorphennaf 16eg 1914.