MR. EVAN A. GRIFFITHS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Er mor sydyn yr alwad olaf i'r cyfaill hawddgar Evan A. Griffiths, 120 High Street, nid oes neb a'i hadnabu a ameu nad oedd efe barod i wynebu ar y daith ddyeithriol. Prydnawn Sadwrn y galwyd ef fry, a hyny o ganol goruchwylion beunyddiol bywyd. Nid oedd ond newydd orphen eillio ei wyneb nag y syrthiodd yn farw i'r llawr. Cwynai yn awr ac eilwaith gan ddolur y galon, a chlywsom ef yn dweyd mai marw sydyn fyddai ei ran ef ryw ddiwrnod. Ni chystuddiwyd ef o gwbl, aeth yn anterth ei ddyddiau a'i nerth i ganol y gogoniant sydd fry.

Aelod o eglwys Moriah ydoedd E. A. G., a mawr ei ddyddordeb yn ngwaith yr eglwys. Cafodd yr achos gyfaill pur ynddo ef, yr oedd yn wr parod i wneyd a ofynid iddo yn ddystaw a distwr. Bu'n gefnogydd da i Gymdeithas y Bobl Ieuainc, a gwasanaethodd ar y pwyllgor y flwyddyn cyn y diweddaf. Rhoddodd help llaw iddi i ddechreu cerdded, a mawr ei ddyddordeb yn ei gweithrediadau.

Gwr yn caru yr encilion ydoedd, gweithiwr garai gymeryd ei le heb floedd udgorn o fath yn y byd. Bydd Moriah yn wagach o golli y Cristion cywir, gonest, dystaw a charuaidd hwn.

Ganwyd Mr. Griffiths yn Bethel, sir Arfon, Gogledd Cymru. a daeth i'r wlad hon oddeutu 33 mlynedd yn ol. Sefydlodd gyntaf yn Rock City, Arkansas, ond daeth yn ol i'r dwyrain. Bu yn Mhennsylvania dros dymor byr, cyn dod i Utica 30 mlynedd yn ol. Aeth i alwedigaeth y cerfiwr ceryg, a dysgodd y grefft gydag Edward Callahan; yn ddylynol bu yn ngwasanaeth George M. Griffith, Utica Stone and Construction Company. a'r Central Stone Company, ond o herwydd ystad ei iechyd, oddeutu tair blvnedd yn ol rhoddodd yr alwedigaeth o gerfiwr ceryg i fyny, ac aeth i weithio fel janitor i gwmni Baechle-Clark.

Yn 1885, unwyd Mr. Griffiths mewn glan briodas. a Mary Jones, merch y diweddariaid Thomas a Mary Jones, ac ni fu uniad mwy cydmarus a hapus na'r eiddo hwynt o hyny hyd nes y daeth angeu i ddatod y cwlwm. Mewn galar mawr erys ei briod, Mrs. Griffiths: nai a dwy nith, sef Evan H. a Missies Myfanwy ac Olwen Griffiths, i'r rhai y bu ef a'i briod yn dad a mam yn ystyr fwyaf y gair.

Y Drych ~ Chwefror 26ain 1914.


MR. EVAN A. GRIFFITHS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mae yma gydymdeimlad mawr a Mrs. Griffith, High St., Utica, yn ei phrofedigaeth o golli ei hanwyl briod mor ddisymwth.

Un o fechgyn Bethel, Arfon, oedd Evan A. Griffith, ac yn fab i'r diweddar Abram Griffith (Abram y Coed), fel y bydd o yn fwy adnabyddus i fechgyn oedd yn cydweithio ag ef yn y Dinorwig. Yr oedd ei dad yn hen gymeriad gloew yn Bethel ac ochr Llanberis a'r cyffiniau.

Y Drych ~ Mawrth 5ed 1914.