MR. JOHN H. GRIFFITHS. COLUMBUS GROVE, OHIO.
Am ddeg o'r gloch nos Sabboth, Hydref 18fed, 1914, bu farw Mr. John H. Griffith.Ganwyd ef yn sir Feirionydd. Hyd. 31ain, 1827, ac enwau ei rieni oeddynt: Hugh a Mary Griffith.
Pan oedd ond chwe mlwydd oed, bu ei fam farw, a phan yn ddeuddeg mlwydd oed, a'i dad heb fod yn abl i gadw y teulu yn hwy gyda'u gilydd, gorfu i John wynebu'r byd ar ei gyfrifoldeb ei hun. Aeth i wasanaethu fel gwas bach ar fferm, a'i gyflog y flwyddyn gyntaf oedd ugain swllt. Yn 1850, ymfudodd i'r Unol Dalaethau, ac wedi cyraedd o hono i Efrog Newydd, aeth i Columbus, Ohio, yr hwn le bu yn gweithio hyd 1863.
Ar y laf o Fai, 1858, unwyd ef a Miss Margaret Roberts mewn glan briodas, a chawsant gydfyw am bymtheg mlynedd a deugain. Symudasent o Columbus i swydd Putnam, Ohio, a phrynasant bedwar ugain erw o dir, yr hwn oedd yn llawn coed, ag eithrio chwe erw oedd wedi cael ei glirio; ond nid oeddent yn hoffi'r fferm, a gwerthasant hi, a phrynasant un arall, ar hon yr oedd wyth erw wedi ei glirio, y gweddill yn goedydd mawrion. Trwy ddiwydrwydd a dyfalbarhad cliriwyd hi, a mab iddynt sydd yn cartrefu yno yn awr.
Yn 1864 ymunodd adeg y rhyfel cartrefol ar adran 151 O. V. I.
Bu yn aelod ffyddlawn am flynyddau lawer o eglwys y T. C. Sugar Creek, a'i hoff benill oedd "O gariad! O gariad anfeidrol ei faint." Aeth dyn ato oedd yn ameuwr mawr ar bethau crefydd i geisio ei ddarbwyllo mai nid gwirionedd oedd pethau yr efengyl. "Na," meddai John Griffith wrtho, "nid fel yna yr wyf wedi profi eu gwirionedd ar fy ysbryd fy hun, a gwn fod cartref gogoneddus yn fy aros." Aeth yr ameuwr yn fud. Hefyd yr oedd wedi dysgu llawer iawn o'r Belbl er ei gof. Yr oedd yn neillduol boblogaidd gyda phawb. bron bawb a rhyw air i ddweyd wrtho, ac yntau ryw air doniol yn ol.
Bu farw yn hyderus o gael bod gyda'r Arglwydd byth mewn gwynfyd. Gadawodd i alaru ar ei ol ei briod, yr hon sydd er hyny yn bur wael. Yn sicr, digalon yw colli cydmar bywyd wedi bod yn cyd-deithio'r anial mor hir; hefyd dau fab a dwy ferch: Mr. John J. Griffith, Lima; Mrs. Jonathan Roberts, Horeb, Venedocia; Mr. Hugh H. Griffith, Sugar Creek; Mrs. John Vandemark, Gomer.
Cynaliwyd gwasanaeth angTaddol yn nghapel y Presbyteriaid, Columbus Grove, a chladdwyd ei weddillion yn mynwent Gomer, Ohio, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. R. W. Kore a Trefor Williams.
Heddwch i'w lwch hyd foreu'r codi.
Gan Parch. W. Trefor Williams.