MR. JOHN R. GRIFFITHS. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Yn Bahgor, Pennsylvania, bu farw John Griffiths (Ffordd Bell), yn 79 oed.Mab ydoedd i'r diweddar Robert a Mary Griffith, Llandwrog, Gogledd Cymru. Bu farw ei dad pan oedd John yn lled ieuanc, a symudodd gyda'i fam i fyw i ardal Bethesda.
Ymfudodd i'r wlad hon pan yn 18 oed, a daeth i Danielsville, Pennsylvania, i fysg y chwarelwyr. Byr fu ei arosiad yno, a'r lle nesaf yr aeth iddo ydoedd Salem, Vermont. Yn adeg y rhyfel aeth yn ol i'r Hen Wlad, ac yn ystod ei arosiad yn Ffestiniog ymbriododd ag Eliza Roberts, merch yr "Adwy Goch." Daeth gyda'i briod yn ol i'r wlad hon, gan sefydlu am beth amser yn Bangor, Pennsylvania, ond cododd awydd arno unwaith eto, ac ymfudodd i'r mwnfeydd yn Colorado, ac yn ystod ei arosiad yno coronwyd ei ymdrechion a llwyddiant mawr.
Wedi hyn, trodd ei wyneb am Bangor unwaith eto, lle y treuliodd weddill ei oes mewn amgylchiadau cysurus. Yr oedd yn un o'r chwarelwyr goreu a'r mwyaf profiadol i mewn ac allan. Cyflogwyd ef unwaith gan gwmni i fyned i archwilio am chwarelau yn nhalaeth Tennessee, a bu yn ddigon gonest i ddweyd y gwir nad oedd yno chwarelau yn werth i wario arian i'w hagor.
Yr oedd yn ddyn o gymeriad tawel, cywir ac addfwyn. Arferai a darllen llawer, bu yn llafurio cymaint yn y Gair Santaidd fel yr oedd bron yr oll o hono ar ei gof.
Hiraethog ydoedd ei fardd, ac fel englynwyr byddai Trebor Mai a Dewi Havesp yn gydradd ganddo, a'i brif lenor ydoedd Index.
Gadawodd dri o feibion i alaru eu colled sef Robert a Griffith yn Bangor, a Benjamin yn Slateford, Pennsylvania. Cafodd angladd parchus a lluosog iawn, Parchn. Harries, a Hunt yn gweinyddu.
Heddwch. i'w lwch.
G. G. Conwy.