MRS. ANN HUGHES. DEERFIELD, NEW YORK.

Ychydig wedi pedwar o'r gloch prydnawn dydd Iau diweddaf bu farw yr hen chwaer anwyl a siriol, Ann Hughes, Deerfield, gweddw y diweddar Evan E. Hughes, Vernon.

Genedigol ydoedd o Ddinas Mawddwy, Gogledd Cymru, a daeth i'r wlad yma yn 11 oed gyda'i rhieni, Owen ac Elizabeth Williams. Cafodd y llestr oedd yn eu cario i'r wlad hon ei tharaw gan feillten, ond cafodd yr oll ddiangfa gyfyng. Treuliodd flwyddi lawer yn Turin, swydd Lewis, a bu am 12eg mlynedd yn Vernon, swydd Oneida, ac am y 7 mlynedd diweddaf gwnaeth ei chartref gyda'i mab, John E. Hughes, ar Walker Road, Deerfield, yr hwn fu yn hynod o dyner a gofalus o'i fam hyd y diwedd. Pu yn orweddiog y rhan fwyaf o'r amser er mis Medi diweddaf, a chafodd gystudd caled y dyddiau diweddaf y bu ar y ddaear. Er hyny, yr oedd ganddi brofiad melus a syniad uchel am air Duw, ac am bobl Dduw.

Yr oedd yn amlwg ei bod wedi parotoi i wynebu "gwlad sydd well," gwlad lle nad oes poen na gofid o'i mewn. Cafodd fyw i gyraedd yr oedran teg o 75 mlwydd, ac yr oedd yn fawr ei pharch gan bawb a'i hadwaenai. Gedy ddau o feibion i alaru eu colled ar ei hol, sef John E. Hughes, Deerfield, a Herbert Hughes, Utica, yn nghyd ag un chwaer, Mrs. G. R. Williams, Denson, Nebraska.

Cafodd angladd tywysog- aidd, a blodau hardd. Am 11 boreu Sadwrn, cynaliwyd gwasanaeth yn y ty gan y Parchn. Lewis Williams a Brown (M. E.), Court Street, ac aed a'r corff gyda'r tren 2 o'r gloch i Turin, i'w gladdu yn meddrod y teulu.
Heddwch i'w llwch.

Y Drych ~ Gorphennaf 2ail 1914.