MRS. ANN HUGHES. CHICAGO, ILLINOIS.
Ddydd Llun, Hydref 5ed, bu farw y chwaer Mrs. Edward J. Hughes wedi dyoddef cystudd maith. a chaled, yr hwn a ddyoddefodd yn hynod o dawel a dirwgnach.Trigai hyd o fewn ychydig wythnosau cyn ei marwolaeth yn 2837 Van Buren Street, yna symudod at ei mab Edward lle y cafodd bob gofal ganddo ef a'i briod a'r oll o'i theulu.
Ganwyd Mrs. Hughes yn Bethesda, Gogledd Cymru, Mehefin 22ain, 1849. Daeth hi a'r teulu i'r wlad hon 30ain mlynedd yn ol, gan ymsefydlu yn y ddinas hon.
Daearwyd ei gweddillion y dydd Iau canlynol yn mynwent Oak Ridge, yr ysgrifenydd yn gwasanaethu. Gedy bedwar mab i alaru eu colled o hol, sef Owen, Edward, Robert a Morris; hefyd un chwaer, Mrs. William G. Rowlands, 1816 Nebraska Avenue, un o ffyddloniaid eglwys Humboldt Park.
Cydymdeimlir yn fawr a hwy yn eu profedigaeth chwerw.
Gan y Parch. Gwilym E. Jones.