MRS. ANN HUGHES. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.

Dal i dori yr hen Gymry i lawr y mae brenin braw yn y lle hwn.

Boreu dydd Gwener, Tachwedd 25ain, bu farw yr hen chwaer Mrs. Ann Hughes, wedi cystudd byr o'r pneumonia yn 77 mlwydd oed.

Ganwyd Mrs. Hughes yn Pentir, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1837. Daeth trosodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1851, ac yn 1857 priododd a Mr. Wm. Hughes.

Ganwyd iddynt bump o blant, yr oll yn fyw oddieithr y mab hynaf, pa un a fu farw amryw flynyddoead yn ol.

Bu yr hen chwaer yn byw yn y gymydogaeth hon bron yn gyfangwlbl wedi ei dyfodiad i'r wlad hon oddigerth rhyw ddwy flynedd a dreuliodd yn Slatinigton. Y mae yma un chwaer iddi yn aros yma eto, Mrs. Catherine Thomas, pa un sydd wedi gadael ei phedair blwydd a phedwar ugain.

Claddwyd yr hyn oedd farwol o Mrs. Hughes yn mynwent Slatville, dydd Gwener, Tachwedd 27ain, a gwasanaethwyd yn ei hangladd gan y Parch. W. C. Rowlands.

Y Drych ~ Rhagfyr 10fed 1914.