ELLEN HUGHES. SEATTLE, WASHINGTON.
Marwolaeth Cymraes.
Oddeutu deuddeg mlynedd yn ol, daeth merch ieuanc o Gymraes o'r enw Ellen Hughes i'r ddinas hon, o Awstralia, lle fu fyw am rai blynyddau.Yr oedd ei brawd Mr. William Hughes (Renton, gynt). yma ers llawer o flynyddau cyn hyny. Yr oedd yma hefyd ddwy chwaer iddi, sef Mrs. Owen Hughes, Youngstown, a Miss Grace Hughes, yn byw cyn hyny. Bu yr olaf a enwyd farw tua dwy flynedd yn ol.
Ganwyd a magwyd yr oll o'r uchod yn Waenfawr, ger Caernarfon, Gogledd Cymru.
Priodwyd Ellen gyda Mr. Fred F. Greenia yn San Francisco, Califfornia, Gorphenaf 12fed 1911. Bu farw yn Sellwood Hospital Portland, Oregon, o enyniad yr ysgyfaint ar yr 17eg o Rhagfyr 19eg 1914. Heblaw am chwaer a dau frawd, gadawodd ei phriod a baban bychan pum mis oed (geneth) i alaru eu colled am dani, a hi yn 42 mlwydd oed.
Dygwyd ei gweddillion i'w daearu yn Lake View Cemetery Seattle. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd a'r Parch. Josiah Daniels.
J. Michael Hughes.