MR. HUGH G. HUGHES. GRANVILLE, NEW YORK.
DAMWAIN ANGEUOL YN GRANVILLE, NEW YORK.
Ychydig cyn pedwar o'r gloch prydnawn ddydd Mawrth, Gorphennaf 21ain, cyfarfu yr hen frawd anwyl Hugh G. Hughes (Eos Ceryg) a'i ddiwedd yn y modd mwyaf erchyll pan gyda'i waith yn y chwarel.Bu y brawd hynaws hwn yn gweithio yn y rhan hon o'r chwarel am tua phum mlynedd ar hugain, ac wedi bod yn hynod o ofalus bob amser, er hyny i gyd cafodd ei ddiwedd mewn modd dychrynllyd, a hyny ar amrantiad fel nas gwyddai ef ei hun ddim beth a ddygwyddai iddo, a thaflodd hyny dristwch a galar drwy yr holl ardal. Y geiriau a glywsech ar bob llaw oedd, "Yr ben frawd duwiol," ac yr oedd felly heb ameuaeth yn meddwl neb.
Un o hogiau'r diwygiad 1905 ydoedd Hugh G., ac yr oedd wedi cael diwygiad o'r iawn ryw; yr oedd ei fywyd a'i bleserau cyn y diwygiad wedi myned yn adgasrwydd yn ei olwg yn awr, nid oedd ganddo ddim o gwbl i wneyd a hwynt, ei bwynt penaf yn awr oedd gwasanaethu Iesu Grist yn y modd goreu, ni byddai yr un moddion yn myned yn mlaen yn y capel na byddai yr Eos yno, ac yn cael y mwynhad mwyaf yno bob amser, ac amlygai hyny gyda'i ben yn mynd a dod a'i "Amen," a.y.
Yr oedd tystiolaeth y gweinidogion iddo ddydd ei angladd yn dweyd y byddai yn bleserus, iddynt, draethu y Gair wrth edrych ar yr hen frawd anwyl hwn, yr oedd ei wyneb llawen yn nerth iddynt bob amser. Ond y mae ef wedi myned, ni cheir gweled ei wyneb hawddgar eto byth eto yr ochr hon, nid oes genym ond gobeithio y bydd i Dduw godi rhywrai eto i lanw ei le. Yn nghanol poethder y diwygiad yn 1905, yr oedd y brawd Hugh G. yn dyfod o'r capel un noswaith tua deg o'r gloch y nos, a chwrddwyd ef ar yr heol gan ei fab, a dyma ddywedodd yr hen dad wrtho, "Tyrd adref Wil Bach; y mae y Welsh people yma yn myned yn crazy."
Yn mhen dwy noson aT ol hyn, pwy roes ei hun i fyny gyntaf i'r Arglwydd ond Hugh Hughes, a rhyfedd fel y mae dyn yn cyfnewid ar ol derbyn gras Duw i'w galon. Y mae gras wedi gwneyd tretfn ar ugeiniau o honom cyn hyn, a goheithio y caiff miloedd eto ei brofi, fel y bo'r anifail yn myned allan o honynt. Yr oedd yr Eos yn ganwr pur dda, a chanddo lais tenor rhagorol. Bu am flynyddau yn arwain y gan yn yr Eglwys Sefydlediig yma, ond wedi ei droedigaeth aeth i addoli gyda'r Annibynwyr, ac mae yn golled fawr i'r eglwys hon ar ei ol, yr un mwyaf mwyn, caredig a feddai. Yr oedd ganddo rhyw air caredig bob amser i ddweyd wrth bawb, fel yr oedd pob cenedl yn y lle yn agoshau ato. Yr oedd yn gydymaith cyson a Crych Elen, ac yr oedd Hugh G. gyda'r diweddar fardd Crych pan gyfansoddodd y gerdd anfarwol hono, "Yn y bwthyn bach to gwellt" yn rhywle rhwng Bettwsycoed a Dolwyddelen, Gogledd Cymru.
Ganwyd yr ymadawedig yn Capel Cerig 67 mlynedd yn ol, ond aeth oddi yno i Ffestiniog; daeth i'r wlad hon tua 33 mlynedd yn ol. Cymerodd ei gladdedigaeth le y dydd Gwener canlynol am 2 o'r gloch o gapel Jerusalem (A.) lle yr oedd tyrfa fawr wedi dod yn nghyd i dalu y gymwynas olaf o barch i'w gorff drylliedig. Galara llu o berthynasau ar ei ol, ei anwyl briod a chwech o blant, sef Mrs. Henry Brown, Mrs. Henry Jones, Robert, David, William a Richard Hughes, o Granville; un chwaer, Mrs. Margaret Thomas o Poughkeepsie, New York.
Ni raid dweyd fod yr ardal i gyd yn cydymdeimlo a'r teulu galarus hwn yn y brofedigaeth lem a'i goddiweddodd.