MRS. JANE HUGHES. WILKES BARRE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Chwefror 27ain, 1914 bu farw Mrs. Jane Hughes, priod y diweddar Howell Hughes, o'r lle hwn. Bu y chwaer hon farw yn yr ysbyty y ddinas hon wedi bod dan lawfeddyginiaeth gyda cancer, a chladdwyd hithau Mawrth laf, a daeth tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf iddi i'w chartref ar South Mead St., Parch. E. J. Morris a'r Parch. William Lewis yn gwasanaethu.

Hebryngwyd ei gweddillion i fynwent y ddinas. Gadawodd mewn galar mawr fam dyner ac anwyl, dwy ferch yn amddifaid o dad a mam; hefyd un chwaer a phedwar o frodyr, Mrs. Robert Edwards a John Hughes, yn Wilkesbarre, a William ac Owen Hughes, yn Scranton, ac un brawd yn Nghaernarfon, sef ei lle genedigol.
Gan Mair Llechid.

Y Drych ~ Mawrth 19eg, 1914.