MR. JOHN ROBERT HUGHES. STRONG CITY, CHASE, KANSAS.

Ganwyd y brawd John Robert Hughes yn Tyddyndrain, Llanaelhaiarn, Gogledd Cymru, Mawrth 22ain, 1854.

Gorphenodd ei yrfa ddaearol yn Strong City, Kansas, Mai 6ed, 1914, yn 60 mlwydd oed.

Cafodd ei ddwyn i fyny mewn cartref duwiol ac ymunodd yntau a'r eglwys yn nyddiau ieuenctyd yn nghapel Babell, Llanaelhaiarn, a rhoddodd dystiolaeth gref yn ei oriau olaf ei fod yn pwyso ar yr iawn am ei fywyd. Ychydig cyn marw dymunodd am i'w anwyl briod a chyfeillion oedd yn bresenol yn yr ystafell ganu yr emyn "Wrth y Groes" ac ymdrechai yntau uno gyda hwynt yn y cydgan:

"Yn y groes, yn y groes,
Gorfoledda'm calon,
Nes cyraeddaf yn y man,
Draw tu hwnt i'r afon."

Rhai o brif symudiadau ei fywyd yw y rhai canlynol: Aeth yn lled ieuanc oddi cartref i Liverpool, Lloegr, i ddysgu yr alwedigaeth o emydd (jewieller) yr hyn a gymerodd iddo bump mlynedd lawn, a daeth yn feistr ar ei waith. Pan tua 30ain mlwydd oed, daeth i'r America a dylynodd ei alwedigaeth yn nhalaith Kansas yn y lleoedd canlynol, Osage City, Lebo, Waverly, a Strong City. Tra yn Waverly ymbriododd a Miss Olive Sylvester, yr hon a brofodd ei hun yn ymgeledd gymwys iddo am agos i chwarter canrif. Gweinyddodd yn dyner arno yn ei gystudd maith a blin am dros dair blynedd. Er mor faith oedd y cystudd cafodd y cystuddiedig nerth i ymgynal yn dawel a chafodd ei briod nerth i weini arno yn gyson, oblegid eu bod yn brofiadol fod Duw yn noddfa ac yn nerth iddynt ac yn gymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.

Sefydlasant yn Strong City yn fuan wedi iddynt briodi tua mis Mawrth, 1890, a buont yn llwyddianus i gael masnach dda a chartref cysurus.

Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn eglwys M. E. Strong City, am haner awr wedi dau prydnawn Mai yr 8fed, pryd y daeth llond y capel at eu gilydd o barch i un oedd yn teilyngu parch. Cauwyd holl fasnachdai y dref yn ystod y gwasasanaeth angladdol. Anfonwyd am yr ysgrifenydd i gymeryd gofal o'r angladd o herwydd fod yr ymadawedig wedi ei fagu yn yr un pentrfef yn Nghymru a mam yr ysgrifenydd, a chynorthwywyd yn y gwasanaeth gan weinidog y lle, sef y Parch. L. A. Rorick. Yr oedd y canu dan ofal pedwarawd o eglwys y Tabernacl, Emporia, sef J. E. Lewis a Robert Davies, a Misses Claudia S. Lewis a Mary A. Lewis.

Claddwyd yn mynwent Strong City, a dymunwyd ar i'r Cymry oedd ar lan y bedd ganu "Bydd myrdd o ryfeddodau," a.y., yr hyn a wnawd yn effeithlol. Gadawodd i alaru ar ei ol ei anwyl briod, a dwy chwaer yn Nghymru, a chwaer yn Lerpwl, a lluaws o berthynasau eraill yn Nghymru, a llawer o gyfeillion yn y wlad hon.
Gan y Parch. R. Henry Jones.

Y Drych ~ Mehefin 4ydd 1914.