MR. ROBERT HUGHES. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Drwg genym orfod cofnodi am farwolaeth Robert Hughes, yr hyn gymerodd le foreu Sul, Ionawr 18fed, 1914 yn 68 mlwydd oed.Cymerodd yr angladd le y dydd Mercher canlynol, pryd y daeth torf o hen gyfeillion yr ymadawedig i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion marwol.
Gadawodd ddwy ferch ac un mab i alaru ar ei ol, ac y mae ein cydymdeimlad gyda hwy yn eu profedigaeth o golli un a fu yn dad da iddynt.
Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Aberdaron, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon tua 30 o flynyddoedd yn ol.
Hen Gymro dyddanus oedd ein cyfaill, selog bob amser dros gadw yr iaith Gymraeg i fyny ac yn ei ddull gwreiddiol ei hun yr oedd ganddo ddywediadau treiddgar am bob Dicsion Dafydd.
Yr oedd Robert Hughes i'w deimlo yn addfedu er's talwm, ac yr oedd ei brofiad plaen a gonest yn y gyfeillach yn tystio hyny, a cholled i ni fel eglwys fydd ei ymadawiad.
Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. John Williams, Slatington.
"Hedd fyddo uwch ei fedd."
Gan Tudno.
Y Drych ~ Chwefror 12fed 1914.
MR. ROBERT HUGHES. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Ionawr 18fed, 1914, bu farw Robert Hughes, yn Bangor, Pennsylvania, yn 70 rnlwydd oed.Ganwyd ef mewn tyddyn o'r enw Ysgubor Isaf ar lan y mor ger Porthor, plwyf Aberdaron, Gogledd Cymru. Symudodd oddi yno gyda'i deulu i, ardal Llanrug, lle y bu yn gweithio yn y chwarelau am beth amser. Adnabyddid ef yno yn mysg y chwarelwyr wrth yr enw Trebor Lleyn, drwy ei fod yn fardd pur dda yn y mesurau rhyddion.
Ymfudodd i'r wlad hon gyda'i deulu oddeutu 30 mlynedd yn ol, a sefydlodd yn y lle hwn, ac yn ystod yr amser yma bu aml i ystorm yn curo arno, a chymylau tristwch yn hongian uwch ei ben. Collodd ei briod, cyfarfyddodd un mab iddo a damwain angeuol, a bu dau eraill o'i felbion ac un ferch farw yn ngwanwyn einioes.
Tua pum mlynedd yn ol cyfarfyddodd a damwain yn y chwarel a chollodd ei lygaid. Bu'n nychu yn raddol am rai misoedd; ac ar y dyddiad uchod o'r flwyddyn newydd hon taenwyd y newydd am farwolaeth y gwr da a'r brawd anwyl hwn. Hen Gymro gwladaidd yr olwg arno ydoedd, a phawb yn ei garu ac yn credu yn ei onestrwydd fel dyn a Christion.
Yn nghyflawniad ei holl ddyledswyddau yr oedd yn ddiflino, a rhoddai foddlonrwydd cyffredinol. Teimlir gwagder mawr ar ei ol, yr oedd yn un o golofnau yr eglwys Galfinaidd yn y lle. Cymerai ddyddordeb neillduol yn y gwaith da, llwyddiant yr eglwys a phob peth a berthynai iddi yn agos iawn at ei galon. Cofiadwy fydd ei weddiau syml, naturiol a dirodres yn y cyfarfodydd, a teimlir yn chwith wrth sylwi ar ei le gwag yn y dosbarth. Credaf na fu neb yma yn fwy cyfarwydd a llethrau Bryn Calfaria, a byddaf yn dychmygu y darfu i'w enaid glan drochi blaenau ei adenydd yn y gwaed i brofi hyn tra ar ei daith i Ganaan y gogoniant.
Cartrefai gyda'i ferch a'i fab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. William Henry Hughes, pa rai a fu yn ofalus iawn o hono yn ei hen ddyddiau, ac heblaw y rhai hyn gadawodd un mab a merch, Richard a Mary, yn nghyd a lluaws o berthynasau i alaru eu colled.
Cafodd gynhe'brwng hynod fawr a pharchus. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch. John Williams, Slatington. Huned yn dawel yn ei argel wely hyd ddydd y deffroad, a nawdd y nef fyddo dros y teulu.
G. G. Conwy.
Y Drych ~ Chwefror 19eg 1914.
MR. ROBERT HUGHES. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Heddyw y mae genym y gorchwyl pruddaidd o hysbysu marwolaeth yr hen frawd Robert R. Hughes. Nid oeddym yn meddwl ddechreu y flwyddyn y byddai iddo ein gadael mor fuan.Bu farw foreu Sul, Ionawr 17eg, 1914 wedi wythnos o gystudd, yn 68 mlwydd oed, ac yn enedigol o Leyn. Daeth i'r wlad hon o Llanrug yn y flwyddyn 1881, a sefydlodd yn Bangor, lle y treuliodd y gweddill o'i oes.
Yr oedd yn Gristion cywir, yn aelod o eglwys y T. C. ac yr oedd yn un o'r ychydig ffyddloniaid hyny sydd i'w cael yn y seiat a'r cyfarfod gweddi. Byddai eneiniad ar ei brofiad a'i weddi bob amser. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi profi blas y "pethau nefol," ac yn gwybod "cariad Duw, yr hwn sydd uwch law gwybodaeth." Byddai yn barod bob amser i ddweyd gair yn y seiat, a phawb yn hoffi gwrando arno. Cofus genym ei glywed ya dweyd lawer gwaith "Mae Iesu Grist yn dda iawn wrtha i, a 'rydw'i yn cael llawer iawn o bleser efo'i waith, ac yn meddwl dal yn ffyddlawn hyd y diwedd, ond alla'i ddim deud yn y seiat fel y bydda'i yn deud wrtho fo yn y dirgel."
Pa rhyfedd, onide, fod ei brofiad a'i weddi mor effeithiol? Gwyn fyd na bai mwy o blant Seion yn debyg iddo! Yr oedd yn ei hwyliau goreu yn ystod yr wvthnos weddi, ac yn ymddangos yn addfed iawn i'r nef.
Y mae erbyn hyn wedi dianc uwch bob clwyf; a gerbron gorseddfainc Duw yn Ei wasanaethu Ef ddydd a nos yn Ei deml, "Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur Ei orchymynion Ef, fel y byddo iddynt fraint yn mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy y pyrth i'r ddinas."
Chwith genym feddwl na chawn weled ei wyneb a chlywed ei lais mwyach, ond, wedi y cwbl, da genym feddwl fod Robert Hughes yn y nefoedd.
Gadawodd i alaru ar ei ol dri o blant. sef Richard Hughes, Misses Wm. P. Hughes, a Misses Bufkird. Cafodd gartref cysurus yn ei hen ddyddiau gyda Mr. a Mrs. Wm. H. Hughes, ac y maent yn haeddu eu canmol am ofalu mor dyner am dano.
Daeth lluaws o'i gyfeillion i dalu y gymwynas olaf iddo. Gwasanaethwyd yn dra effeithiol gan y Parch. John Williams, Slatington. Heddwch i'w lwch hyd ganiad yr udgorn!