MR. THOMAS JOHN THOMAS. NAZARETH, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.

Nos Lun, yn y General Hospital, y ddinas hon, bu farw David J. Hughes (brodor o Ffestiniog), mewn canlyniad i lyncu gwenwyn, yr hwn brynodd yn y stor y boreu hwnw. Ymddengys fod Hughes mewn iselder ysbryd er's rhai dyddiau, ac wedi bygwth unwaith neu ddwy y gwnai am dano'i hun, a'r dydd hwn aeth i stor Blaikie i ofyn am "rough on rats," ond daeth cyfaill iddo i mewn a rhybuddiodd y clerc i beidio rhoi dim iddo.

Aeth drachefn i stor Howarth a Ballard, y tro hwn heb ei gyfaill, a llwyddodd i gael y gwenwyn, a llyncodd ef o flaen y Grace Church, cyn i'w gyfaill gael cyfle i'w daro o'i law.

Bu farw yn yr hwyr.

Ganwyd D. J. Hughes yn Ffestiniog, Gogledd Cymru., ei dad oedd y diweddar John Hughes, plastrwr. Yr oedd yn 34 mlwydd oed a daeth i'r wlad hon oddeutu wyth mlynedd yn ol.

Ni wyddir am un achos dros iddo gyflawni hunanladdiad; yr oedd ganddo oddeutu $1,000 yn y banc, ac yn weithiwr da oedd yn cael cymaint i'w wneyd ag unrhyw blastrwr yn y ddinas. Yr oedd yn awr ac eilwaith yn cwyno gan boenau yn ei ymysgaroedd, a bernir fod hyny yn effeithio arno.

Gedy ar ei ol yn Nghymru ei fam, dau frawd a thair chwaer, a pherthynasau yn Brooklyn, New York a Wilkes-Barre, Pennsylvania.

Y Drych ~ Ebrill 2ail, 1914.