MR. WILLIAM W. HUGHES. NEW HARTFORD, NEW YORK.

Marwolaeth William W. Hughes. Nos Wener diweddaf, yn New Hartford, bu farw William W. Hughes, brodor o Towyn, Meirionydd, Gogledd Cymru, a dydd Llun, cymerodd ei angladd le o gartref ei frawd Thomas D. Hughes, 211 West Liberty Street, Rome.

Y gweinidogion wasanaethai oeddynt y Parchn. W. Caradog Jones, D. D., a Thomas T. Davies, o Sandy Creek, a chanodd Mrs. John S. Jones, Floyd Aveenue, Rome, ddau emyn yn swynol.

Yr archgludwyr oeddynt William T. Hughes, Benjamin Evans, George Jones, Robert Smart, John Owens ac R. E. Jones.

Y Drych ~ Tachwedd 5ed, 1914.