MRS. ELIZABETH THOMAS HUMPHREY. FAIRHAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Gofidus yw hysbysu am farwolaeth y chwaer garuaidd a serchog Mrs. Elizabeth Thomas Humphrey, gweddw Hugh D. Humphrey, yr hon derfynodd ei thaith ddaearol yn nghartref ei merch, Mrs. Samuel E. Jones, 118 Union Avenue, nos Iau diweddaf.

Er dechreu y flwyddyn yr oedd wedi bod mewn gwendid a llesgedd, a dyddiau henaint yn faich iddi, fel yr oedd marwolaeth iddi yn rhyddhad o ofidiau afiechyd.

Ganwyd Mrs. Humphrey yn Ngogledd Cymru, Gorphenaf 31ain, 1834, a daeth i'r wlad hon pan yn eneth ieuanc.

Oddeutu trugain mlynedd yn ol, priododd a Hugh D. Humphrey yn Philadelphia, Pennsylvania, a bu ef farw yn Fairhaven, Vermont, yn 1883.

Daeth Mrs. Humphrey i fyw i Utica oddeutu 26 mlynedd yn ol, ac yma y gwnaeth ei chartref er hyny. Heblaw Mrs. Jones a nodir uchod, gedy dair merch arall, sef Mrs. F. W. Rutherford, o'r ddimas hon; Mrs. Hughes, priod y Parch. J. Michael Hughes, Seattle, Washington, a Mrs. Robert O. Owen, o Fairhaven, Vermont; hefyd un mab, John D. Humphrey, Mill City, Oregon, ac un brawd, William Thomas, o'r ddinas hon.

Ddydd Sul am haner awr wedi pedwar, cynaliwyd gwasanaeth angladdol annghyhoedd yn nghartref ei merch, y Parchn. D. M. Richards ac A. J. Dean yn gweinyddu, a phedwarawd o dan ofal W. R. Thomas yn canu emynau pwrpasol. Foreu Llun, awd a'r corff i Fairhaven, Vermont, i'w ddaearu yno.

Y Drych ~ Mai 14eg 1914.