MR. HUMPHREY D. HUMPHREY. DELTA, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.

Mai 5ed 1914, bu farw Mr. Humphrey D. Humphreys yn South Delta, Md., wedi dyoddef cystudd maith a phoenus yn 79 mlwydd oed.

Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1857, gan aros ychydig yn West Bangor. Bu yn California am flynyddoedd ac yn Vermont am dymor, yna daeth yn ol yma.

Priododd yma gyda merch hynaf y diweddar Barch. Evan F. Jones. Buont byw yn gysurus am lawer o flynyddoedd, ond y mae diwedd y cysuron tymorol yn sicr o'u cyfarfod.

Daeth i'r wlad hon o Aberllefeni. Adnabyddid ei rieni fel David a Jane Humphreys, ac yr oedd yn un o saith o frodyr; dau yn fyw, sef : y Parch. Evan D. Humphreys, Fairhaven, a David Humphreys.

Yr oedd Mr. Humphreys yn ddyn cynil a darbodus wrth natur, a gwnaeth y defnydd goreu o'i enillion bob amser. Yr oedd yn rhan-ddaliwr yn un o'r chwarelau goreu yn yr ardal, ond nid dyna y goreu allwn ddweyd am dano; yr oedd yn aelod crefyddol ac yn barod i roddi i fyny y cwbl am ei grefydd.

Dyoddefodd ei gystudd yn dawel, ac ymfoddlonodd i ewyllys ei Dduw.

Gadawodd mewn galar ar ei ol briod a phedwar o blant ac amryw wyrion; un yn agos i fis oed ma wybu ef ddim am dano, sef cyntafanedig David F. Humphreys a'i briod. Gwnaeth hwn eich gohebydd yn hen daid. Cynaliwyd gwasanaeth ar y 7fed yn Rehoboth, a gweinyddwyd gan y Parchn. W. C. Rowlands ac A. L. Hvde.

Rhoddwyd y corff i orphwys yn mynwent Slateville.
W. C. Roberts.

Y Drych ~ Mai 14eg 1914.