MR. JOHN JAMES. SHAWNEE, OHIO.
Boreu Sabboth, Chwefror 8fed, 1914, pan yr oedd cnul y gloch yn galw trigolion Shawnee i'r capelau y galwyd y brawd uchod i'w gartref fry.Ganwyd ef yn Edeyrn, Lleyn, Arfon, Ionawr 1af, 1844, ac hoff ryfeddol ydoedd o son am hen ardal ei faboed, ac atgoffa am hen gyfeillion, a.y.
Magwyd ef gan mwyaf gan ei daid a'i nain, Mr. a Mrs. Thomas Hughes; Abererch Road, Pwllheli.
Fel yr arfer y dyddiau hyny, trodd ei wyneb allan i'r byd yn ieuanc iawn i wasanaethu fel gwas fferm, a bu yn ffodus o gael lleoedd osododd argraffiadau neillduol arno, ond wedi gwasanaethu rai blynyddau yn ardal Edeyrn, daeth awydd myned i'r mor arno, a bu am flynyddau rai yn forwr.
Pan tua 23 oed ymfudodd ef a chyfaill iddo o'r enw John Hughes, o'r un ardal i'r wlad hon, gan sefydlu yn swydd Jackson, Ohio.
Yn 1871, ymunodd mewn priodas a Miss Mary Jenkins; yn y flwyddyn 1879 symudodd y teulu i Shawnee, Ohio, gan sefydlu ar fferm ar Iron Point, yna symudasant ar eu fferm yn ymyl y dref.
Cafodd ei ran o brofedigaethau, collodd ei anwyl briod tua thair blynedd ar ddeg yn ol, a bachgen ieuanc o'r enw John, a merch fechan o'r enw Mary, a hefyd ei fab Thomas; ond er yr holl guro - daliodd y cyfan gyda ffydd hyderus, yn Nuw Israel.
Yn 1902, ymunodd mewn priodas a Mrs. Hannah Williams, yr hon gafodd nerth i weini arno yn ei gystudd olaf.
Cafodd ei ddewis yn flaenor yn eglwys y T. C. yn Shawnee tua deng mlynedd yn ol, a gwnaeth ei ran yn ffyddlawn. Nid oedd yn berffaith mwy na'r gweddill o honom, ymylai weithiau ar fod yn arw, a posibl y gallasai dyeithr-ddyn ei gam farnu. Yn ddiau yr oedd achos Iesu Grist yn agos at ei galon; edrychai yn eang ar grefydd, a dymunai lwyddiant cyffredinol y deyrnas fawr. Mawr oedd ei sel dros grefydd a'i ffyddlondeb yn ddiball i gyfarfodydd yr eglwys.
Meddai wybodaeth ysgrythyrol eang iawn, a synais lawer pryd at ei fedrusrwydd yn dylyn hanes cenedl Israel gyda manylder. O ran ei ddaliadau Calfin oedd ef, a phe y cawsai rai o ymosodwyr Calfin a Chalfiniaeth wyneb yn wyneb i ddadl, byddai yn sicr o'u gwneyd oll yn fud. Yr oedd yn arweinydd dyogel i'r ieuainc, bob amser yn eu cyngori yn nglyn a chrefydd. Nid wyf yn cofio am un seiat o flaen y cymundeb na byddai yn sicr o ddweyd gair pwrpasol ac ysbrydol er cymhelliad i barotoi at yr ordinhad.
Byddai yn aml yn cau ei lygaid wrth wrandaw pregeth, ond yr oedd yn gwrandaw, ac ni ddiangai un sylw heb iddo gael gafael arno. Tro doniol unwaith oedd i frawd ieuanc yn gwasanaethu yr eglwys ar y pryd ddweyd wrtho na fedrai ef ddim pregethu a rhai yn cysgu. Meddai yntau, "A ydych yn dweyd fy mod i yn cysgu; os hyny, yr ydych yn methu." Dynar bregeth oreu sydd genyf," meddai y gwr ieuanc. "O," ebai yn ol, "pregeth wyllt iawn oedd hi," a phrofodd i'r brawd ar fyr ei fod wedi gwrandaw a chymeryd cryn lawer o'r bregeth i'w feddwl.
Yn bersonol yr oeddwn yn fwy hoff o hono yn gweddio nag yn siarad er ei fod ar adegau yn neillduol o hapus, ond bob amser pan yn gweddio yr oeddych yn rhwym o deimlo ei fod yn medru myned yn agos iawn at yr Arglwydd. Lawer tro mewn cyfarfod gweddi cyffredin, ac heb ond ychydig o'r ffyddloniaid yn nghyd, y byddai fel yn tynu'r nefoedd i'n hymyl, rhyw ddwysder, ac ysbrydiaeth yn ei weddiau.
Fel cyfaill yr oedd yn bur - cyfaill pregethwr. Mae llawer o gyfeillion yn y byd yn rhy debyg i fis Ebrill, yr haul yn gynes a'r gwynt yn oer, cyfeillion dau neu ragor o wynebau, dweyd fel hyn a gwneyd fel arall, neu fel hyn yn wyneb dyn a rhyw fel arall yn ei gefn, ond am John James, byddai bob amser yn gyfaill pur; os byddai ganddo rhywbeth i'w ddweyd, gwnai hyny fel ffrynd.
Ond dyma yntau wedi myned - mor chwith meddwl fod yr hen Gymry da Shawnee yn mynd un ar ol y llall.
Heblaw ei briod mewn unigedd, gadawa hefyd bedwar o feibion ac un ferch i alaru eu colled: Isaac, William, Daniel, Hugh a Catherine.
Nawn Mercher, Chwefror lleg, ymgasglodd tyrfa fawr i dalu'r gymwynas olaf iddo, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. W. Trevor Williams, W. D. Roberts, a C. T. Bowman.
Heddwch i lwch fy hen gyfaill hoff a phur hyd nes y cana udgorn Duw.