MRS. ANN DAVIES JONES. READING, LYON COUNTY, KANSAS.
Bu farw yn yr Iesu, Mrs. Robert Jones, Reading, Kansas, yn mis Chwefrar, 1914. Cafodd ei chymeryd adref wedi bod yn gystuddiol am yn agos i bedair blynedd neu ragor. Cafodd ergyd o'r parlys yn mis Hydref, yn y flwyddyn 1909, gan ei hanalluoigi i gerdded na myned o amgylch na gweini arai ei hunan. Dyoddafodd ei chystudd yn dawel a dirwgnach gan roddi ei phwys ar yr Iesu. Yr oedd wedi dysgu rhoddi ei phwys arno pan yn ieuanc.Ganwyd Mrs. Jones yn sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Mai 13eg, 1845; a'i henw morwynol oedd Anne Davies, merch hynaf i Benjamin a Margaret Davies, ac ymfudodd gyda'i rhieni i'r America yn y fiwyddyn 1846, a sefydlasant yn agos i Racine, Wisconsin, lle y buont yn byw am ddwy flynedd, ac wedyn darfu iddynt symud i Chicago, Illinois, le y buont yn byw am ddwy flynedd; yna symud-asant i gartref y teulu yn Big Rock, Illinois, a byddem yn ei galw Mrs. Jones, Big Rock.
Pan yn ieuanc ymunodd Mrs. Jones ag eglwys Annibynol Big Rock, ac ar Rhagfyr 29ain, yn y flwyddyn 1868, priodwyd hi a Robert Jones o Aurora, Illinois, ac yn mis Chwefror yn 1871, sefydlasant yn Arvonia, Kansas, prynasant fferm, a buont yn byw arni hyd 1904, pryd y rhoisant i fyny ffermio, ac aethant i fyw i dref Reading, a rhentu ei fferm.
Gadawodd i alaru ar ei hoi ei hanwyl briod, Robert Jones, a thri o blant: D. W. Jones, yn briod ac yn cashier yn y Reading Bank, a'i merch, Miss Effie Jones sydd gartref gyda'i thad; a Mrs. Ada Lundquist o McPherson, Kansas; ac hefyd pedair chwaer; Mrs. Eliza. Mitchell yn Big Rock, Illinois; Mrs. Mary Whildon, Aurora, Illinois; Mrs. Sarah Booth, Arvonia, Kansas; a Mrs. Jennie Conwell yn Riverside, California, a lluaws o gyfeillion sydd yn teimlo yn ddwys o'i cholli.
Yr oedd Mrs. Jones o gymeriad tawel, yn aelod yn nghapel yr Annibynwyr yn Arvonia am lawer o flynyddoedd, ac wedi symud i Reading, ymunodd a'r Episcopal Methodist, lle yr oedd yn aelod hardd a dangosodd ysbryd gwir Gristion yn ei chystudd maith. Cafodd angladd tywysogaidd, a rhoddwyd hi i orphwys yn mynwent Reading hyd ganiad yr udgorn diweddaf.