MRS. ANN ELLEN JONES. BANGOR, PENNSYLVANIA.

Medi 2ail, yn hynod sydyn o ganol ei hiechyd, bu farw Ann Ellen Jones, priod Hugh R. Jones, Broadway, wedi dim ond 22 o oriau o salwch. Brawychwyd yr holl ardal gyda y newydd trist.

Merch ydoedd i John Williams a'i ddiweddar briod Ann 'Glan y Gors' fel yr adnabyddid, hi, ddaethant yma flynyddau yn ol o Bangor, Gogledd Cymru pan oedd yr ymadawedig yn eneth fach, ei hoedran oedd 34 mlwydd.

Gadawodd ar ei hol mewn galar mawr ei phriod a tri o blant bach, Annie, yr hynaf, wedi gadael ei 13 oed, ac yn analluog gan anhwyldeb o'i haelodau; Florence, 12 oed; Lloyd, 2 flwydd oed, a'i thad John Williams; cydymdeimlir yn fawr a'r teulu trallodedig.

Cafodd angladd anrhydeddus, ei gweinidog, y Parch. Ivor Thomas, a'r Parch. John J. Hunt yn gwasanaethu; hefyd chwiorydd Cyfrinfa Iforaidd y Gwragedd (Gwladys Lodge), sefydlwyd yn ddi-weddar, Mrs. Jones oedd y gyntaf i ymuno a hi a'r gyntaf fu farw o honi.

Claddwyd ei gweddillion yn mynwent Bangor wrth ochr ei mam a'i bachgen bach Hughie. Nerth gaffo yr holl deulu yn y brofedigaeth chwerw hon. Dymunir ar i newyddiaduron Gogledd Cymru godi yr uch- od gan fod llu o'r teulu yn sir Fon a Bethesda, sir Arfon. Yr ychydig hyn sydd oddiwrth ei modryb sydd ar ymweliad a Bangor, ac yn chwith fod yma heb Ann Ellen.
Mair Llechid.

Y Drych ~ Hydref 8fed 1914.