MRS. ANN MORRIS JONES. STEUBEN STREET, UTICA, NEW YORK.

Mae angeu wedi tori l lawr un eto o hen Gymry parchus dinas Utica, y tro hwn yn mherson Mrs. Ann Williams, yr hon a fu farw ddydd Llun diweddaf, Hydref 26ain, yn nghartref ei merch, Mrs. Robert W. Williams, 1514 Steuben Street.

Nid sydyn ac annysgwyliadwy ddyfodiad angeu ati, gan iddi gael ei chystuddio dros flwyddyn, a dyoddef o honi yn ystod y ddau fis diweddaf hyn boenau dirfawr.

Ganwyd Ann Morris Jones yn mhentref Llanberis, sir Gaernarfon, wrth odreu y Wyddfa, yn mis Mai, 1839, hyhi felly yn 75 oed. Yno yr addysgwyd hi yn yr ysgol ddyddiol a'r Ysgol Sul, ac y tyfodd yn ferch ieuanc hardd.

Yn 1859, ymbriododd a William Williams, o Llandinorwig, Gogledd Cymru, a bu iddynt ymdaith briodasol hapus hyd Mai, 1889 pryd y daeth angeu i dori i lawr y priod. Y flwyddyn ddylynol daeth Mrs. Williams drosodd i'r wlad hon, gan sefydlu gyda'i phlant yn Utica. Bu'n byw am flynyddau ar Elm St., ond yn ddiweddar aeth i fyw at ei merch ar Steuben St.

Yr oedd Mrs. Williams yn aelod o eglwys Bethesda, ac yn fawr ei dyddordeb yn llwyddiant yr achos. Yr oedd yn adnabyddus i gylch eang o gyfeillion, o herwydd cysylltiadau agos ei phlant a chymdeithasau cerddorol y ddinas.

Gedy mewn galar mawr ar ol mam ofalus a thyner William G. Williams, Mrs. Robert W. Williams, John G. Williams, yr oll o'r ddinas hon; Proff. Morris G. Williams, Erie, Pennsylvania; Mrs. Evan Williams, o Llanfairfechan, Gogledd Cymru; ac un chwaer, Mrs. John J. Hughes, o New York Mills, ac y mae cydymdeimlad mawr a hwy.

Y Drych ~ Hydref 27ain, 1914.