MR. DAVID J. JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Marwolaeth Ofidus.
Foreu Mercher, am 4 o'r gloch y boreu deuwyd o hyd i gorff David J. Jones, gwyliwr yn y Savage Arms, ar waelod grisiau yn y weithfa, a'r bywyd wedi difianu o hono.Gwyliwr yn y Savage Arms oedd Jones, a bernir iddo rywdro yn ystod y boreu syrthio i lawr y grisiau, ac anafu ei ben. Cafwyd ef gan wyliwr arall yn yr un weithfa, yr hwn pan fethodd a'i gael at y pellseinydd a aeth i edrych beth oedd wedi dygwydd.
Ganwyd David Jones yn Bethesda, Gogledd Cymru, Medi 29ain, 1849, a daeth i'r wlad hon gan sefydlu yn Vermont, pan yn ddeuddeg mlwydd oed.
Yn fuan daeth i Utica, ac yma y bu ac eitihrio ychydig amser dreuliodd yn Buffalo. Yr oedd yn aelod o eglwys Fedyddiedig yr Immanuel.
Yn 1871 priododd a Maria Hughes yn Whitesboro, ac erys mewn galar ei briod, dau fab, Llewelyn a LeRoy Jones, a dwy ferch, Mrs. John E. Davies a Mrs. Charles H. Daniels, a'r rhai y mae cydymdeimlad mawr yn cael ei arddangos.