MR. EDWIN JONES. DELTA YORK COUNTY PENNSYLVANIA.
Bu y brawd Edwin Jones farw Ionawr 3ydd mewn ysbyty yn Lancaster, Pennsylvania. Daeth yma fryseb yn hysbysu ei fod yn wael iawn, ac aeth ei gyfnither, Mrs. Ann Jane Morris yno, a bu farw mewn tuag awr wedi iddi gyraedd yno. Adnabyddodd Mrs. Morris a dywedodd ei fod yn myned i farw, yna dymunodd arni aros yno y noswaith hono, ond yr oedd ef wedi ymadael cyn pen awr, heb fod neb yn meddwl fod y diwedd mor agos.Yr oedd Edwin Jones yn gweithio er's tro yr ochr ddwyreiniol i'r afon tua 5 neu 6 milldir o West Bangpr yn Lancaster County.
Cymerwyd ef yn wael yr wythnos hono ac aed ag ef i'r ysbyty, a dyna fu y canlyniad. Yr oedd yn treuJio y Nadolig yn Delta, ac yr oedd gyda ni yn Rehoboth boreu Sabboth olaf o'r hen flwyddyn.
Deuwyd a'i gorff yma i'w gladdu, yr hyn a wnaed ar y 6ed cyfisol mewn modd parchus iawn. Nid yn aml y gwelwn neb mor amddifad o berthynasau, ac eto daeth yr holl gymydogaeth allan i anrhydeddu ei angladd. Perthynai i gymdeithas y Knights of Malta, a hwy oedd yn cymeryd gofal o'r angladd. Pregethodd y Parch. W. C. Rowlands yn nghapel Rehoboth yn Saesneg ar gais y gymdeithas.
Rhoddwyd ei weddillion i orphwys yn mynwent Slateville. Mab ydoedd Edwin Jones i Mr. a Mrs. John Jones, Gaerwen Uchaf, Corris, Meirion. Collodd ei rieni yn ieuanc; daeth i'r wlad hon tua 33 mlynedd yn ol. Bu ar ymweliad a Chymru 18 mlynedd i'r gauaf hwn. Treuliodd y rhan fwyaf o'r amser yn y wlad hon yn yr ardaloedd hyn.
Yr oedd yn ddyn cynil a darbodus, ni wariai ddim ar oferedd, ac ni ddywedodd lawer mwy nag oedd angenrheidiol iddo. Yr oedd yn aelod yn Rehoboth ac yn hynod ffyddlon yn ei ffordd. Yr oedd yn 50 mlwydd oed er y dydd cyntaf o'r mis hwn.
W. C. Roberts.