MRS. ELIZABETH JONES. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Dydd Mercher, yr lleg Mawrth, 1914 bu farw Elizabeth Jones, priod ein gohebydd ffyddlawn, John W. Jones (Ioan, Eryri), ar ol cystudd trwm, ond byr.Ganwyd Mrs. Jones yn Arthog, Meirionydd, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1872, ac felly yr oedd yn 42 mlwydd oed.
Ymfudodd i'r wlad hon yn 1891, gan sefydlu yn Cincinnati, Ohio.
Priododd a Ioan Eryri Rhagfyr 21ain, 1905, ac ymsefydlodd yn Poultney, Vermont.
Yr oedd Mrs. Jones yn fawr ei pharch yma, dynes dawel oedd bob amser, ac mae iddi air da gan bawb, ac yr oedd ganddi hithau barch mawr i bawb.
Y mae iddi un chwaer yn Abermaw, Gogledd Cymru, Mrs. Castle, a theulu lluosog yma i alaru ar ei hol. Y mae ein cydymdeimlad llwyraf a Ioan Eryri a'r teulu oll yn y brofedigaeth.