MR. EVAN PRITCHARD JONES. COLUMBUS CAMBRIA, WISCONSIN.
Nos Sabboth, Mehefin 7fed, 1914, bu farw Evan P. Jones, Coetyno, ger capel Bethel, Columbus. Wisconsin, wedi cyraedd yr oedran teg o 87 mlwydd oed. Yr oedd y babell bridd er ys misoedd yn ad feilio yn raddol o wendid henaint eto daliai yn fywiog o ran ei ysbryd hyd ei oriau olaf; ni bu yn cadw ei wely ond ryw ddiwrnod neu ddau olaf y bu byw.Ganwyd Mr. Jones yn agos i Gapel Uchaf Clynnog, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni oedd Richard a Sarah Jones, yr Odyn, ond bu ef yn aros ddyddiau ei blentyndod gyda ei daid a'i nain yn Coetyno, yr hwn oedd yn nes i GapeI Uchaf na'r Odyn.
Ymfudodd i'r America yn Hydref, 1854. a daeth ar ei union i'r sefydliad hwn, lle yr oedd ei frawd Mr. John P. Jones a'i briod wedi dyfod ryw wyth mlynedd o'i flaen, ac wedi sefydlu ar ffarm yn ymyl capel Bethel, gan ei galw yn Coetyno.
Mawrth 17eg, 1860, priododd gyda Miss Martha Robert. merch i Mr. a Mrs. John Roberts, Tyddynyberth, Llanddeiniolen, Gogledd Cymru, yr hon ar y pryd oedd yn ymgartrefu yn y sefydliad. Wedi priodi ymroddasant o ddifrif at ffermio, ac i ymgodymu ag anhawsderau gwlad newydd. Yn y flwyddyn 1869, symudasant i Minnesota, a buont yn ffermio yno tua 4 blynedd, yn y cyfamser bu farw priod ei frawd John P. Jones, Coet-yno, gan ei adael yn weddw ac unig, ac ar ddymuniad ei frawd, symudodd Evan Jones a'r teulu yn ol, a phrynodd Coet-yno gan ei frawd, a dyma lle treuliodd weddill ei oes.
Yma hefyd gyda'r teulu yr ymgartrefodd John P. Jones weddill ei ddyddiau ef, gan fwynhau gofal a thynnerwch y teulu am lawer o flynyddoedd; bu farw Mehefin 27, 1890. Fe gyfarfyddodd Evan Jones a phrofedigaetbau chwerwon yn ystod ei yrfa, ond yr oedd yn medru bod yn dawel a dystaw yn wyneb yr oll.
Ganwyd iddynt bump o blant, tri mab a dwy ferch. Collodd ei briod yn gynar, bu farw Mehefin 10fed, 1876, yn ddim ond 35 mlwydd oed, wedi bod yn gystuddiol am fisoedd lawer, a'r flwyddyn ddylynol collodd ei fab hynaf Richard yn fachgen ieuanc gobeithiol. Bu farw Hydref 12fed, 1877, a bu farw ei frawd fel y crybwyllwyd yn 1890: drachefn yn mis Awst, 1906, collodd ei ferch hynaf, yr hon oedd yn briod a Mr. R. J. Prirchard. Penydaith. Mae y gweddill sydd yn fyw dau fab a'r ferch wedi eu gadael mewn galar a hiraeth ar ei ol John yr hynaf wedi priodi ac yn byw yn nhref Columbus: Robert a Sarah wedi bod gartref bob amser gyda'u tad yn ffermio.
Rai blynyddoedd yn ol, priododd y ferch gyda Thomas L. Jones a ddaeth o Gymru at ei ewythr a'i fodryb i Lledwigan, yn ddyn caredig ac yn weithiwr egniol, a daeth atynt i Coetyno i fyw ac i ymgymeryd a gweithio y fferm, fel y bu yr hen wr yn ffodus iawn i gael cwmni ei blant a'i wyrion weddill ei oes, a chafodd bob gofal, a chynorthwy a thiriondeb gan bob un o honynt.
Bu ef a'r teulu yn garedig iawn i'r achos goreu, eu ty yn agored bob amser i groesawu dyeithriaid ar tichel wyliau y genedl, a phob adeg arall yn gystal a hyny, ond er fod ein brawd yn garedig iawn i'r achos, ac yn cyfranu yn gyson at ei gynal, ni wnaeth broffes gyhoeddus o Iesu Grist ond ychydig dros ddwy flynedd cyn ei farwolaeth. Nid oedd yn abl i fyned i'r capel er's misoedd cyn hyny, oherwydd gwendid a gwaeledd, derbyniwyd ef i gymundeb a'r eglwys yn Bethel, Ionawr 3ydd, 1912. a chyfarfod hapus iawn oedd hwnw, pan y derbyniwyd ef i'r cymundeb, a chyfranogodd am y tro cyntaf o'r ordinhad sanctaidd. Wylai fel plentyn. a theimlai ryw lawenvdd yn ei ysbryd, bob yn ail ag wylo. Yr oedd rhyw eneiniad i sanciaiud i'w deimlo yno ar y gweinidog ac ar y gwasanaeth, ei weinidog y Parch. W. H. Davies oedd yn gwasanaethu, ac meddai yr hen wr ". Y mae yma le braf onid oes, fasa yn dda gen i tasa'ch chi yn aros yma o hyd."
Cafodd cyfarfod cyffelyb gydag ef amryw weithiau ar ol hyn. Addefai wrth ei weinidog y byddai yn meddwl llawer am grefydd, ac am Iesu Grist, ond yn rhyw fethu tori trwodd rywfodd i wneyd proffes gyhoeddus o hono. Hyderwn ei fod wedi cael gafael ar wreiddyn y mater a'i fod yn addfedu yn raddol i'r wlad well. Siaradai lawer yn ei ddyddiau olaf am farw, ac am y dyfodol ar ol marw, a hyny mewn llawn ymwybyddiaeth fod y diwedd bron yn ymyl, a bu farw fel y bu fyw, yn dawel, fel un yn syrthio i freichiau cwsg. "Ni frysia yr hwn a gredo."
Mehefin 10fed, ymgynullodd torf luosog o'i gydnabod, o bell ac agos i dalu y gymwynas olaf iddo, ac i hebrwng ei weddillion i gladdfa y teulu yn mynwent Bethel, wrth ochr ei briod oedd wedi ei ragfiaenu er's tair o flynyddoedd. Gwasanaethwyd gan Parchn. W. H. Davies a J. R. Jones.
Gan John C. Williams.