MR. GRIFFITH JONES. WILKES-BARRE, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.
Tua dwy wythnos yn ol dygwyddodd damwaiin yn y gwaith glo i'r brodyr Morris Owen a Griffith Jones, yr hon drodd yn angeuol i Griffith Jones, yn mhen ychydig ddyddiau, ond da genym gael dweyd fod Morris Owen ac argoel gwella erbyn hyn wedi bod am amser na wyddid pa fodd y buasai yn troi.Bachgen ieuanc oddeutu 30 oed o Ffestiniog ydoedd Griffith Jones, yn amddifaid o deulu yn agos ato, ond cymered ei anwyl dad a'i fam a'r teulu oll gysur ei fod wedi cael pob chwareu teg tra yn yr ysbyty gan y meddygon a chyfeillion, hefyd wedi i bob ymdrech fethu.
Cafwyd cydymdeimlad y gymydogaeth, a chafodd ei gladdu yn barchus, llond y capel wedi dod o bob cyfeiriad i dalu y gymwynas olaf iddo, ac hebryngwyd ef i'w gladdu yn yr un fynwent ac y claddwyd ei frawd Robert Jones, fu farw yn yr un ysbyty wedi bod dan lawfeddygiaeth. Yr oedd ei frawd yn cael ei gladdu pan oedd cor y Moelwyn yma; y peth cyntaf wnaethant wedi cyraedd oedd canu yn angladd R. Jones, bachgen o'r un ardal a hwy.
Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu trallodedig hyn yn colli eu dau fachgen fel hyn yn mhell oddiwrthynt.