MR. HUGH FREEMAN JONES. LEBO, COFFEY COUNTY, KANSAS.

Bu farw Hugh F. Jones yn sydyn iawn yn ei gartref cysurus gerllaw Lebo, Ionawr 18fed, yn 60 mlwydd, 11 mis oed.

Nid oedd ond ychydig o wythnosau oddi ar y claddwyd ei fab Stanley yn fachgen ieuanc yn mlodau ei ddyddiau. Gwnaeth marwolaeth ei fab effeithio arno yn nghyd a chlefyd y galon i'w dori i lawr yn sydyn.

Mab i William ac Ann Jones, Conwy, oedd Hugh F. Jones, ac wedi ei eni a'i fagu yn Talycafn, ger Conwy.

Daeth ef gyda'i rhieni i Arvonia, Kansas, gan sefydlu yn Coffee County, a bu yno am rai blynyddau, ac wedyn prynodd fferm ar Coal Creek, lle y bu yn cartrefu'n hir, ond wedi sefydlu tref Lebo, prynodd le arall yn ymyl y dref ac yma y dibenodd ei yrfa ddaearol.

Gadawodd i alaru ar ei ol wraig ac amryw o blant yn nghyd a thri brawd a thair chwaer mewn galar dwys. Nerth a gaffont i ddal y brofedigaeth chwerw hon.

Y Drych ~ Mai 14eg 1914.