MR. HUGH "HUGHIE" JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Pan yn dweyd hanes marwolaeth ei dad yn y rhifyn diweddaf, bychan wyddem y gelwid arnom i wneyd y gymwynas olaf hono i Hugh bach. Dyma brofedigaeth fawr arall wedi dal y teulu lluosog hwn cyn i gysgod y gyntaf gilio oddi ar ei llwybr. Tua saith niwrnod fu ef yn gorwedd tan y pneumonia, a llithrodd ymaith yn dawel iawn nos Fercher, Chwefror lleg yn yr oedran cynar o 16eg. Rhyfedd ydyw trefn Rhagluniaeth; ond "Ei ffyrdd Ef sydd yn y mor, a'i lwybrau yn y dyfroedd dyfnion."

Gellid dweyd am Hugh bach lawer o bethau dymunol pe bae lle ond,

Plygodd ef i'w fedd yn gynar
Fel y wawr ar ddiwrnod prudd,
Plygodd i'w obeithion llachar
Ddeffro mewn goleuach dydd.

Ganwyd ef yr lleg o Fedi, 1897, yn Rathbone Terrace, Dolwyddelen, Gogledd Cymru. Efe oedd yr ieuengaf o un-ar-ddeg o blant Hugh ac Alice Jones. Bu'n destyn pryder i'w rieni a'r plant eraill am flynyddau ar gyfrif ei iechyd, eithr wedi iddo gartrefu yn Utica, teimlwyd fod y newidiad wedi rhoddi iddo nerth newydd.

Cafodd fanteision crefyddol fel yr eiddo ei frodyr a'i chwiorydd, a thyfodd ynddynt heb erioed beri gofid i neb. Meddai pawb hoffder mawr o hono ar gyfrif ei dawelweh, a'i wyleidd-dra. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn Moriah, Utica, a byddai'n gyson yn y moddion. Anfonodd Cymdeithas Geltaidd Moriah, a'r Band of Hope, o ba rai yr oedd yn aelod ffyddlawn; ei ddosbarth yn yr Ysgol Sul, flodau hardd i'w angladd; hefyd tair torch o flodau oddiwrth ei gyfeillion yn Roberts-Wicks Co., lle gweithiai, cor yr Haydns, cor genethod y Tabernacl, a lluaws mawr eraill oddiwrth gyfeillion caredig o bell ac agos.

Parchn. D. Morgan Richards a John Isaac Hughes a weinyddai yn ei angladd yr hwn oedd breifat yn y ty, a chyhoeddus yn y capel, lle y canai plant y Band of Hope yn dlws ac effeithiol o dan arweiniad David Griffith. Dangosodd lluaws mawr eu cydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth eisoes a charedigrwydd marw, ond y mae y cydymdeimlad cyffredinol yn gyfryw nas gall hyd y nod y teulu profedigaethus byth ei weled, am fod hyny fel mewn amgylchiadau cyffelyb gan mwyaf o'r golwg yn ngalonau tyner y bobl.

"Gadawn i Dduw esbonio' hun
Efe dry'r nos yn ddydd."

D. Lloyd Davies.

Y Drych ~ Chwefror 19eg 1914.