MRS. JANE JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Nid oes braidd ddiwrnod yn myned heibio heb i ryw rai o'm cydnabod syrthio o dan dalyrnod angeu. Teimlwn rywfodd fod llawn gynifer erbyn hyn o'n cyfeillion wedi croesi, ag sydd yn aros yr ochr yma i'r afon, ac y mae hyny o angenrheidrwydd yn ein hadgofio nad oes i ninau yma ddinas barhaus; mai dyeithriaid a phererinion ydym ar y ddaear.Nos Fawrth, y 27ain o Ionawr, daeth angeu i roddi terfyn ar bererindod y chwaer Mrs. Jones, a hi yn llawn o ddyddiau, ac yn addfed i'r orphwysfa. Yr oedd y llwybrau a gerddodd y ddwy flynedd ddiweddaf yn llwybrau geirwon iawn; ond dringodd hwy yn ddirwgnach a phrofodd i'r rhai gafodd y fraint o fod yn ei chwmni mai nid crefydd yr bin deg oedd yr eiddo hi, ond un ddaliodd ei phrofi yn y storom a'i phuro yn y tan.
Rhoddodd brawf eglur i'r plant a'u cyfeillion nad oedd gwahanu oddiwrth gariad Crist yn bosibl, yr oedd y cyfamod a wnaed ddeg mlynedd a thri ugain yn ol rhwng bryniau Meirion a'i glwm yn rhy glos i unigrwydd ac adfyd allu ei ddatod. Cadwodd y ffydd, gorphenodd yr yrfa, ac aeth adref i wisgo yr anniflanedig goron.
Gweddw ydoedd i'r diweddar Rowland Jones, Nelson; bu ef farw Medi, 1911, gan ei gadael mewn unigrwydd a llesgedd mawr, ac o'r awr yr hunodd ef hyd ddydd yr ymddatodiad, hiraethu a wnai am y dydd y cai hithau fwrw angor wrth y nefol dawel lan. Bu am y 25ain mlynedd diweddaf yn aelod o'r eglwys Annibynol yn y ddinas hon, a gwnaeth ei rhan yn mhob cylch; bu ffyddlawn o dan lawer o anfanteision.
Gadawodd i alaru chwech o blant, sef William Jones, Mrs. Henry Roberts, (Mrs. Morris Wilson, Rome; Mrs. Tschuime, Waterville; Mrs Edward Jones, West Eaton; Mrs. Etson, Morrisville.
Cafodd amgladd parchus dydd Gwener, y 30ain. Yr oedd hi a'i diweddar briod wedi dymuno flynyddau yn ol ar i'r ysgrifenydd wasanaethu yn ei hangladd, a hyny yn ddiau ar gyfrif hen gyfeillgarwch (wedi bod flynyddau yn gymydogion). Cafodd ei dymuniad a hefyd cymerwyd rhan gan ei gweinidog, y Parch. R. Eifion Jones. Yr oedd toraeth o flodau prydferth wedi eu hanfon gan gyfeillion a pherthynasau, ac yn eu plith bleth-dorch oddi wrth Ladies Aid yr eglwys.
Rhoddwyd ei gweddillion i orwedd wrth ochr ei phriod yn y Thomas St. Cemetery.
Heddwch i'w llwch.
D. L. Williams.