MR. JOHN A. JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
New Hartford, New York. Chwefror 9fed, 1914. Drwg genym gofnodi marwolaeth yr hen frawd parchus John A. Jones, yr hyn a gymerodd le dydd Sul yn ei gartref ar Oxford Road, yn ddeg a phedwar ugain namyn un.Genedigol ydoedd yr ymadawedig o Ffestiniog, Gogledd Cymru, o'r lle y symudodd gyda'i rieni i'r wlad hon pan nad ydoedd ond chwe mlwydd oed. Bu ganddo ddau frawd, y rhai sydd wedi ei ragflaenu er's rhai blynyddau, William Jones, Holland Patent, a Robert Jones, Plainfield; hefyd yr oedd ganddo un chwaer, sef y ddiweddar Mrs. John C. Jones (grocery), Genesee Street, Utica.
Bu y diweddar frawd yn ffarmio yn llwyddianus yn Madison, Middle Settlement, a Paris Hill. Cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn y ty 'nawn Mawrth, Parch. D. M. Richards, Utica, yn gweinyddu, a chludwyd ei weddillion i fynwent Forest Hill.
Gedy weddw unig, gyda'r hon mae cydymdelmlad llwyraf pawb yn el phrofedigaeth lem.
Bu y diweddar frawd yn mynychu y moddion yn eglwys Seion am flynyddau yn gyson hyd y gallai, ond er's talm bellach o herwydd henaint caethiwyd ef mwy neu lai i'w dy. Byddai ef a Mrs. Jones gyda'u gilydd bob amser yn y capel, ac 'roedd y ddau yn selog a ffyddlawn iawn i'r achos Cymreig yma.
Heddwch i'w lwch, a bydded amddiffyn Barnwr y gweddwon tros Mrs. Jones yn ei hunigedd trallodus.