MR. JOHN W. JONES. OSHKOSH, WISCONSIN.
Ebrill 15fed, 1914 wedi bod dan law a chyllell y meddyg yn yr hospital, yn bur sydyn ac annysgwyliadwy i bawb, gorphenodd yr hen gyfaill ffyddlon John W. Jones, y gof. 165 Jefferson Avenue, ei yrfa ddaearol.Yr oedd ei iechyd yn gwaelu ers amryw fisoedd, ond ymdrechodd ddylyn ei orchwyl trwy boen yn lled gyson hyd o fewn ychydig wythnosau i'r diwedd. Barnai ei fe ddyg y deuai yn well yn union wedi cyflawni y weithred lawfedaygol arno, felly aed ag ef i'r meddygdy brydnawn Sul y Pasg; cyflawnwyd y weithred boreu Llun, pryd y canfuwyd fod cancer mawr wedi tyfu yn neu yn agos i'w chwysigen. Llidiodd y gyllell hwnw yn fawr, a bu y poenau yn ddigon i'w lethu yn ei wendid nes y bu farw cyn pump o'r gloch boreu Mercher.
Cynaliwyd ei angladd am haner awr wedi dau brydnawn dydd Gwener o'i gartref, y Parch. W. N. Jameson, ei weinidog, yn gweinyddu yn y ty, a'r Odyddion ar lan y bedd. Cafodd angladd mawr a pharchus.
Ychydig iawn wyddom am dano cyn ei ddod i'r wlad hon. Ganwyd ef yn agos i Gonwy, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1850, Mehefin 10. Daeth drosodd pan tuag un ar hugain oed, ond lled ansefydlog fu am gryn dymor nes cyraedd i Hankog, Michigan, a gweithiodd yno am amryw flynyddau, ac aeth yn ol i Gymru, a bu yn gweithio tra yno yn chwarel y Rhiw, Blaenau Ffestiniog, pan oedd y diweddar Robert Owen yn oruchwyliwr yno.
Wedi dyfod drosodd yr ail waith, ni bu am enyd ond fel careg symudol. Yn 1890, priodwyd ef a Jane Thomas, merch y diweddar John R. Thomas, L'Anse, Michigan, gan y Parch. R. Trogwy Evans, yn nhy y diweddar Albert Morgan. Ganwyd iddynt fachgen a geneth, y bachgen, Roger, wedi ei gladdu er's blynyddau, ond yr eneth, Ethel, gartref yn helpu a chysuro ei mam. Yma y gweithiodd bron yn gyson ar ol priodi. Ymaelododd yn y 1st M. E. Church, ac yr oedd yn ffyddlon iawn fel athraw y dosbarth Beibl-aidd yn yr Ysgol Sul, a bu yn arweinydd dosbarth o'r eglwys nes i'w iechyd ballu, ac y teimlai yn rhy flin i fyned allan yr hwyr wedi dod adref o'r efail.
Dyn a gair da iddo gan bawb oedd John Jones y gof. Gadawodd mewn galar, ei briod a'i ferch; William R. Jones, ei frawd, yn South Dakota: a chwaer mewn lle elwir Cymerau, yn agos i Gonwy, a merch i hono yn Colwyn Bay.
Gan Edno.