MR. JOSHUA O. JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Rhy ddrwg oedd i'm hen gydnabod John Edno Roberts gefnu ar Utica am ardaloedd y chwareli Vermont heb dalu ymweliad a Rhufain, gan fod yma rai fu am flynyddau yn chwareu wrth odrau y Moelwyn fel yntau, er fod llawer blwyddyn er pan gwrddasom a'n gilydd. Llawenydd fuasai genym ei gwrdd a chael ymgom am yr hen amser gynt pan oeddym yn chwarel Gwmorthin, a chan fy mod wedi talu ymweliad a'r hen ardal yn ddiweddar, difyr fuasai yr ymgom gyda'r hen adgofion, er mai ychydig sydd yn aros yno o'i hem gyfoedion ef. Ond gan ei fod wedi cefnu, nid oes ond anfon fy nghofion ar ei ol fel un o feib yr awen wir.

Bu farw am bedwar o'r glodh prydnawn dydd Iau, yn nghartref ei fam, Mrs. Henry O. Jones, 622 Parry St., yn 51 mlwydd oed, Joshua O. Jones. Mab ydoedd i'r diweddar Henry O. Jones, Vaenol, Towyn, Meirionydd.

Bu yn dyoddef oddiwrth yr asthma am flynyddau lawer, ond cafodd bob gofal gan ei hen fam yn ei holl gystudd, a hi o neb wel ei golli fwyaf, er wedi dod trwy lawer o brofedigaethau chwerw yn ei hoes.

Daeth Mr. Jones i'r wlad hon yn bur ieuanc; yr oedd yn cael pen ei flwydd ar y mor yn un-ar-hugain oed. Yn Utica y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, ac yno y dysgodd y grefft o saer maen. Yn ystod ei arosiad yn Utica aeth i undeb priodasol a Miss Mary Ann Owen, ond rhagflaenodd hi ef i'r cartref dedwydd 16 mlynedd i Ionawr diweddaf. Y tri tymor diweddaf bu yn gwe-ithio gyda'r Fort Stanwix Canning Company, ac yr oedd yn gweithio hyd nos Lun cyn ei farwolaeth.

Gadawodd i alaru ar ei ol Mrs. H. O. Jones, yr hon sydd wedi cyraedd yr oedran o bedwar ugain. a thair merch, Anna Jones yn Rome: Mrs. Laverne Smith, o Ilion, ac Elizabeth Jones, nyrs yn y General Hospital, Utica, a phedwar brawd, M. H. Jones, Rome; Charles L. Jones, o Ilion; David a George Jones, yn Utica. Gadawodd Mr. Jones gylch eang o gyfeillion, y rhai a deimlant chwithdod ar ei ol.

Angladd annghyhoedd am un o'r gloch ddydd Sul, y teulu yn gwasanaethu fel archgludwyr, a Dr. R. T. Roberts yn gwasanaethu yn y ty ac ar lan y bedd.
Lloffwr.

Y Drych ~ Hydfref 1af, 1914.