MRS. LAURA GRIFFITH JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Dydd Sul diweddaf, Ionawr 4ydd, yn ei chartref, 74 Hobart Street, bu farw y chwaer dda Mrs. Laura Griffith, gweddw y diweddar William Hoskins Jones.Bu gwaelu yn ystod y pum' mis diweddaf, ac er ymladd yn ddewr am barhad bywyd, angeu a orfu, er mawr alar i'w pherthynasau a'i chyfeillion.
Ganwyd Mrs. Jones yn Nol Helyg, Llanrug, ger Caernarfon, Gogledd Cymru, ar Ionawr 28ain, 1854, ac yno y priodwyd hi a'r diweddar Mr. Jones 43 mlynedd yn ol.
Daeth hi a'i phriod i'r wlad hon oddeutu 25 mlynedd yn ol, a sefydlasant yu Utica., lle y treuliasant y gweddill o'u dyddiau.
Yr oedd Mrs. Jones yn aelod o eglwys Moriah, a cherid hi yn fawr gan yr aelodau.
Gedy mewn galar bedair merch, Mrs. John P. Evans, Philadelphia; Miss Nellie H. Jones, Florida; Miss Mary G., a J. Jones, o'r ddinas hon; un brawd, Griffith Griffith, ac un chwaer, Mrs. William Price, yn Nghymru.