MRS. MARY JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Bu farw Mrs. Elias H. Jones, 319 East Myrtle Street, Awst lOfed, yn 48 oed. Bu yn wael am dros ddau fis, ond yn gyfyngedig i'w gwely am saith wythnos, er heb fod yn gryf iawn er's tro. Achos ei marwolaeth ydoedd cymhlethiad.Daeth Mrs. Jones i'r wlad hon yn y flwyddyn 1888, o sir Arfon, gan ymsefydlu yn Remsen, New York.
Yn y flwyddyn 1890, aeth i undeb priodasol a Mr. Jones, a gwnaethant eu cartref yn y dref hon; priodwyd hwy gan y diweddar Parch. John N. Jones.
Gadawodd Mrs. Jones, heblaw ei phriod, saith o blant i alaru ar ei hol, sef Mrs. Alfred King, a Claudia, Louisa, Margaret, Blodwen, Olwen a William H. Jones, ac un wyres fach, Eleanor King. Hefyd ddau frawd, William Hughes (Sallwg), Buenos Aires, South America, a David Hughes, Caernarfon, a dau haner brawd, Robert Hughes, Manchester, Lloegr, a dwy haner chwaer, Mrs. William H. Hughes a Miss Edith Hughes o sir Arfon.
Yr oedd Mrs. Jones yn aelod ffyddlawn gyda'r Methodistiaid er pan ddaeth i'r dref hon 25 mlynedd yn ol. Yr oedd wedi gwneyd arddeliad o grefydd y Gwaredwr er yn ieuanic.Cafodd deulu crefyddol i'w dwyn i fyny ac yr oedd dylanwad yr addysg foreuol a gafodd wedi rhoddi nodwedd neillduol i'w meddwl a'i chymeriad. Gwnaeth haul ei chymeriad crefyddol lewyrchu heb gymaint ag un cwmwl i guddio ei wyneb hyd nes i haul ei bywyd fachlud yn nghymylau duon marwolaeth.
Nid oedd yn rhoddi le i ddigofaint na chas at neb, yr oedd sirioldeb, tynerwch a charedigrwydd yn llond ei natur, a'i hyfrydwch penaf oedd cyfleusderau i ddangos cymwynasgarweh. Profodd ei hun yn un o ffyddloniaid Seion. Daliodd allan ddarlun o'r Gwaredwr yn ei bywyd crefyddol, enillodd enw da iddi ei hun, nid yn unig fel cymydoges, ond hefyd fel Cristion ffyddlawn.
Gwasanaethwyd yn yr angladd gan ei gweinidog, Dr. R. T. Roberts, yn wir effeithiol. Yr archgludwyr oeddynt: John S. Williams, John J. Roberts, Daniel I. Jones a William T. Williams, a dymuna Mr. Jones a'r plant gyflwyno eu diolchgarwch i bawb am eu caredigrwydd, ac am y blodau hardd roddwyd ar ei harch dydd ei hangladd. Heddwch i'r chwaer anwyl gael hun dawel hyd foreu codi.
Dafydd O.